Mae hwn yn gwrs hyfforddi lefel uwch, deuddydd o hyd, a fydd yn cynnwys cyfarwyddyd a hyfforddiant ymarferol yn y canlynol:
Bydd y cwrs Cneifio Uwch yn helpu’r rhai sydd eisoes yn gallu cneifio dafad yn gymwys i wella eu sgiliau ymhellach drwy:
• Ddysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant am y ffordd fwyaf effeithlon o gneifio dafad
• Perffeithio Patrwm Cneifio.
• Sgiliau technegol cneifio, arbenigo cribau, a malu.
• Cynnal a chadw peiriannau.
• Lles anifeiliaid
• Iechyd a Diogelwch
• Ffitrwydd
• Anghenion Hydradiad a Maeth.
• Rheoli anafiadau personol a rhai anifeiliaid.
Ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus ac yn dibynnu ar y lefel a gyflawnwyd, bydd y cyfranogwr yn derbyn Tystysgrif Goch, Gwyrdd neu Sêl Aur yr Elite Wool Industry Training a gydnabyddir yn Genedlaethol ac yn Rhyngwladol.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Elite Wool Industry Training : Digwyddiadau'r Sefydliad
Sylwer: Mae'r cyrsiau cneifio hyn ar gael ledled Cymru, cysylltwch â Siwan Jones yng Ngholeg Cambria i drafod pa ddyddiadau sydd ar gael ac ati.
SYLWCH FOD Y FFENESTR YMGEISIO BELLACH WEDI CAU AR GYFER 2025. OS OES GENNYCH UNRHYW YMHOLIADAU, CYSYLLTWCH Â'R DARPARWR YN UNIONGYRCHOL NEU CYSWLLT FFERMIO AR 03456 000 813. DIOLCH.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn: