Os ydych yn ymwneud â chludo anifeiliaid ar y ffordd ar deithiau byr (dros 65km a hyd at 8 awr), bydd y cymhwyster hwn yn sicrhau eich bod yn bodloni'r gofyniad am Dystysgrif Cymhwysedd a amlinellir yn Rheoliad Cyngor y CE Rhif 1/2005 ar Ddiogelu Anifeiliaid wrth eu Cludo a Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) 2006.
Trosolwg o’r Cymhwyster: Mae'r cymhwyster yn benodol i’r rhywogaethau canlynol:
• Gwartheg a defaid
• Defaid
• Gwartheg
• Dofednod
• Adar Hela
• Moch
• Ceffylau
• Geifr
Mae'r cwrs yn cwmpasu'r gofynion cyfreithiol, cynllunio taith, addasrwydd cerbydau, addasrwydd i deithio, achosion ac arwyddion o straen mewn anifeiliaid, lwfansau gofod, dwyseddau stocio, trin a lles anifeiliaid wrth deithio ac ar ôl teithio.
Beth sydd angen i chi ei wneud: Ar ôl i chi gael yr wybodaeth angenrheidiol, byddwch yn gallu ymgymryd ag arholiad prawf cyfrifiadurol (e-volve) amlddewis.Ar ôl cwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif cymhwysedd a cherdyn sgiliau, yn dibynnu ar y corff dyfarnu.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Ffrwythloni Artiffisial (AI) mewn Gwartheg
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn: