Katherine & David Langton

Fferm Langton , South Ceredigion

 

Ymestyn y tymor cynhyrchu tomatos i'w dosbarthu'n gyfanwerthol

Mae Katherine a David Langton yn gweithredu busnes gardd farchnad sefydledig sy’n tyfu llysiau a gynhyrchwyd yn amaeth-ecolegol ar gyfer cynllun bocsys llysiau, a hefyd i’w cyfanwerthu i fanwerthwyr a siopau lleol. Yn 2023, buont yn rhan o gynllun peilot ‘Bwyd mewn Ysgolion’ yn treialu cynhyrchu lleol ar gyfer caffael cyhoeddus, a oedd yn cynnwys gweithio gyda chwmni dosbarthu ag enw da o Gymru i gynyddu’r cynnyrch ffres lleol sy’n mynd i ysgolion.

Mae teulu Langton wedi ehangu’r busnes i gynnwys safle ychwanegol yn Aberteifi, a fydd yn cynnwys mentrau newydd fel perllan ffrwythau a chynhyrchu llysiau ar raddfa cae. Fel rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, bydd Fferm Langton yn treialu cynyddu eu cynhyrchiant tomatos ac yn ceisio ymestyn tymor y cnwd i gefnogi gofynion eu marchnad gyfanwerthol.

Mae teulu Langton wedi casglu dwy flynedd o ddata ar safle tyfu eu gardd farchnad a byddant yn defnyddio hwn fel pwynt sylfaen i lywio’r gwaith o uwchraddio ac ehangu eu cnwd tomatos ar eu fferm newydd yn Aberteifi. Mae mathau penodol wedi'u dewis i fodloni gofynion yr arlwywyr ysgol a'r dosbarthwyr cyfanwerthu sy'n cyflenwi i'r system caffael gyhoeddus.
  
Nod y prosiect yw:

  • Nodi mathau o domatos sy'n addas at y diben ar gyfer y farchnad arfaethedig

  • Archwilio gwahanol ddyddiadau hau a phlannu i greu cyflenwad dibynadwy o gynnyrch mor bell â phosibl i mewn i'r tymor

  • Treialu plannu cydymaith gyda chnwd ciwcymbr

  • Treialu gwahanol ddulliau tyfu i ymestyn cyfnod cnydio'r planhigion tomatos

  • Cynyddu’r cynnyrch o’u cymharu â blynyddoedd blaenorol  

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • ecosystemau cydnerth


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Clyngwyn
Jeff, Sarah, Enfys a Medi Wheeler Clyngwyn, Clunderwen, Sir
Tyddyn Cae
Ifan Ifans Tyddyn Cae, Pwllheli, Gwynedd {"preview_thumbnail":"
Hafod Y Foel
Edward Evans Hafod Y Foel, South Montgomeryshire Gydag o leiaf