Mark & Bethany Jarvis
Gelli Goll Farm, South Wales
Deall manteision tyfu cymysgedd o rawnfwyd a chodlysiau fel porthiant cyflawn
Mae Gelli Goll yn fferm Bîff, Defaid ac Âr ar gyrion y Bont-faen, sy’n cael ei rhedeg ar hyn o bryd gan Mark Jarvis a’i ferch Bethany. Ar hyn o bryd, mae'r fferm yn gweithredu ar lwyfan o 450 erw. Mae'r system yn cynnwys menter pesgi bîff, lle mae rhwng 100 a 150 o wartheg stôr Charolais a Limousin yn cael eu prynu yn 12 mis oed a'u pesgi ar y fferm, ac yn eu gwerthu pan maent tua 24 mis oed. Mae gan y fferm hefyd ddiadell o 750 o Suffolk Croes Miwl Seland Newydd a 200 o famogiaid Miwl Cymreig.
Fel ffordd o ddod yn fwy hunangynhaliol a chreu diet gaeafol cyflawn, eleni bydd y fferm yn tyfu cymysgedd o rawn a chodlysiau, sy’n gymysgedd cymwys ar gyfer y Grant Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Er mwyn bodloni anghenion maeth da byw, mae'n ofynnol dod â phrotein ychwanegol i mewn yn aml. Drwy dyfu’r cnwd hwn, ein nod yw bodloni’r galw heb ddibynnu ar borthiant a brynir i mewn a chynyddu gwerthoedd protein a dyfir gartref rhwng 30 a 50% ynghyd â chynnyrch cynyddol, o gymharu â chnydau un math.
Mae hefyd nifer o fanteision hysbys eraill o ymgorffori codlysiau, megis eu heffaith ar ddarparu nitrogen gweddilliol yn y pridd tra hefyd yn dileu clefyd ffwngaidd y dail, gan ddileu'r angen am ffwngladdwyr a phryfladdwyr. Felly, yn y treial hwn, byddwn yn adolygu addasrwydd cyffredinol y cnwd mewn cylchdro âr ynghyd â chymharu gwerthoedd o ran y cnwd, ansawdd a bwydo o gymharu â chnydau un math.
Nodau’r prosiect hwn yw:
Datblygu strategaeth gost-effeithiol a chynhyrchiol ar gyfer porthi yn ystod y gaeaf yn seiliedig ar dyfu cymysgedd o rawn a chodlysiau
Mesur cnwd, ansawdd ac economeg tyfu cnwd protein uwch
Lleihau'r angen i gyflwyno mewnbynnau ychwanegol, ac felly gwella hunangynhaliaeth
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
Cynnal a gwella’r ecosystem
Gwelliant o ran gwneud y mwyaf o storio ac atafaelu carbon wrth leihau ôl troed carbon y fferm gyfan