Bev Hopkins

Enw: Bev Hopkins

E-bost: beverley.hopkins@agrisgop.cymru

Symudol:  07891 570180

Lleoliad:  Ceredigion a Sir Benfro

Arbenigedd(au): Iechyd a lles anifeiliaid; hyfforddiant a sgiliau cyflwyno

Profiad, sgiliau, cymwysterau perthnasol

  • Yn ymchwilydd milfeddygol profiadol ac yn ddarlithydd prifysgol, mae Bev Hopkins yn arbenigwr cydnabyddedig yn ei maes arbenigol o iechyd anifeiliaid a chlefydau. 
  • Yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae’r wraig a’r fam brysur hon sy’n gweithio ar hyn o bryd yn dal dwy swydd uchel eu proffil yn y sector iechyd anifeiliaid yng Nghymru.  Am dri diwrnod yr wythnos mae wedi'i lleoli yng Nghanolfan Milfeddygaeth Cymru, lle mae'n cynnal archwiliadau post-mortem gwyliadwriaeth ac yn cynghori milfeddygon yn ymarferol ar brofi diagnostig. Fel rhan o’r rôl hon, mae hi hefyd yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cynnal cyrsiau DPP ar gyfer milfeddygon.  Un diwrnod yr wythnos mae’n gweithio yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer TB Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae’n cyd-arwain ar Brosiect TB Buchol Sir Benfro.
  • Mae gan Bev dros 16 mlynedd o weithio ar lefel uwch yn y byd academaidd ac i asiantaethau’r llywodraeth yng Nghymru, lle mae wedi cael profiad ac arbenigedd helaeth mewn pynciau iechyd a lles anifeiliaid. Ei harbenigeddau yw patholeg, gwyliadwriaeth, diagnosteg ac epidemioleg. 
  • Yn angerddol am gefnogi pobl ifanc, mae Bev hefyd yn gwirfoddoli gyda Girlguiding Ceredigion, lle mae galw am ei sgiliau hyfforddi, darlithio a chyflwyno wrth arwain grwpiau o 'Rainbows', 'Geidiau' a 'Rangers' hyd at 18 oed.  
  • Bellach mae ganddi linyn arall i'w bwa – daw'r ymadrodd 'gofynnwch i berson prysur' i’r meddwl!  Mae Bev hefyd yn arweinydd Agrisgôp Cyswllt Ffermio, yn hwyluso grŵp o ffermwyr bîff a llaeth i gyd yn benderfynol o ddysgu sut orau i fynd i’r afael â TB Buchol yn uniongyrchol. Trwy gyfarfodydd rheolaidd, mae aelodau'r grŵp yn rhannu syniadau ar arfer gorau bioddiogelwch ac yn dysgu sut i ddeall a rheoli 'cyfraddau risg' ar gyfer TB buchol ac afiechydon fferm cyffredin eraill. Mae teithiau astudio i ffermydd er mwyn arsylwi 'arfer gorau' ar waith a siaradwyr gwadd arbenigol yn yr arfaeth.
  • Athroniaeth Bev yw trwy helpu ffermwyr i wella eu sgiliau o ran TB Buchol, ni fyddant bellach yn meddu ar agwedd mor angheuol neu syniadau rhagdybiedig na all unrhyw beth gael ei wneud i'w osgoi.  Trwy ei rôl gyda Phrosiect TB Buchol Sir Benfro - menter ddwy flynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru – mae Bev eisoes yn gweithio ochr yn ochr â grŵp o filfeddygon, ffermwyr ac academyddion, ac yn dweud bod adborth gan ei haelodau Agrisgôp yn profi'n hynod werthfawr gyda chanlyniadau trafodaethau grŵp a chwestiynau sydd eisoes yn dylanwadu ar feysydd ar gyfer ymchwil pellach. 
  • Ymunwch â grŵp Agrisgôp dan arweiniad Bev a disgwyliwch fod yn fwy gwybodus, wedi eich paratoi'n well ac yn gallu rheoli ac o bosibl atal clefydau anifeiliaid a allai effeithio ar eich da byw. 

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad perthnasol

  • Cymrawd Cyswllt yr Awdurdod Addysg Uwch – 2023
  • Cwrs hyfforddi sgiliau cyflwyno a ddarperir gan Dysgu’r Gwasanaeth Sifil - 2015 
  • Cwrs hyfforddwr cymorth cyntaf a ddarperir gan Ambiwlans Sant Ioan - 2011 
  • Cwrs hyfforddi’r hyfforddwr a ddarperir gan Dysgu’r Gwasanaeth Sifil - 2010 
  • Y Coleg Milfeddygol Brenhinol - BVetMed Hydref 2008

Rolau presennol/blaenorol: 

  • Cydymaith Ymchwil Filfeddygol – Prifysgol Aberystwyth, Hydref 2023 hyd yma
  • Swyddog Ymchwiliad Milfeddygol a Rheolwr Patholeg yng Nghanolfan Milfeddygaeth Cymru, Hydref 2018 hyd yma
  • Swyddog Ymchwiliad Milfeddygol ar gyfer Canolfan AM APHA Caerfyrddin, 2015 – 2018
  • Rolau milfeddygol o fewn Iechyd Anifeiliaid (AHVLA ac APHA), 2008 – 2015