Simon Davies

Manor Afon, North Carmarthenshire

 

Yr heriau a’r cyfleoedd i warchod a gwella’r amgylchedd ar gyfer fferm laeth yn nalgylch Tywi

Mae Manor Afon yn fferm laeth 500-erw fel y prif ddaliad gyda 200 erw ychwanegol o dir ar rent. Mae Manor Afon wedi’i lleoli i'r Gogledd Ddwyrain o Landeilo ac ar hyd y ddwy ochr i lannau afon Tywi sy'n ymdroelli ac yn teithio o'r Dwyrain i'r Gorllewin drwy'r fferm i gyfeiriad Llandeilo. I'r gogledd mae ffin y fferm ar hyd trac rheilffordd ac i'r De mae'r ffordd fawr i Fethlehem yn rhedeg gyferbyn â'r fferm. Mae'r fenter laeth yn cynnwys 340 o wartheg godro a thua 250 o loeau. Mae'r ffocws craidd ar gynhyrchu glaswellt ar gyfer y llwyfan pori a chynhyrchu silwair.

Mae afon Tywi yn afon tir isel sy'n ymdroelli ar orlifdir gweithredol eang ond cyfyng ac sydd o werth uchel o ran golygfa ac yn ecolegol. Mae’r priddoedd llifwaddodol wedi bod o fudd i genedlaethau o ffermwyr ond gyda newid yn yr hinsawdd a fflachlifoedd cynyddol, mae erydiad y glannau yn debygol o ddigwydd yn sylweddol gan golli cyfalaf tir.

Bydd y prosiect hwn yn mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd i warchod a gwella'r amgylchedd ar gyfer fferm laeth ar orlifdir. Bydd yn ceisio nodi cyfleoedd ar gyfer methodoleg rheoli glannau afon i liniaru erydiad y glannau trwy nodi mesurau priodol ac effeithiol sydd mor fuddiol â phosibl ar gyfer prosesau a chynefinoedd naturiol.

Gallai nodi methodoleg i sicrhau mwy nag un budd trwy gamau gweithredu wedi'u targedu i leihau erydiad, creu cynefinoedd a gwella cysylltedd, a bydd hyn oll yn gwella dalgylch yr afon ac yn gwella perfformiad amgylcheddol ac economaidd ar gyfer y busnes. Bydd y prosiect hefyd yn dangos y manteision o weithio’n strategol mewn dyffryn afon sy’n cael ei ffermio’n ddwys a bydd o fudd i’r amgylchedd lleol drwy nodi cynigion amgylcheddol gyda’r nod o wella gwydnwch coridor yr afon rhwng yr ardaloedd trefol er budd y gymdeithas ehangach.

Bydd y prosiect yn cyfrannu at y canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Aer glân
  • Dŵr glân
  • Safonau Iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Lleihau risg llifogydd a sychder
  • Tirweddau naturiol a’r amgylchedd hanesyddol gwarchodedig
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Ecosystemau cydnerth
  • Defnyddio adnoddau’n effeithiol
     

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Ffermydd Glyn Arthur
Sarah Hammond and Robert Williams Ffermydd Glyn Arthur
Crickie Farm
Roger & Dyddanwy Pugh Crickie Farm, Llangors, Aberhonddu {
Astridge Farm
William Fox Astridge Farm, South Pembrokeshire Mae William a Katy