Tyddyn Cae Diweddariad ar y prosiect – Ebrill 2024

Protocolau Cofnodi Llaeth ar gyfer Tyddyn Cae

  • Cofnodi’n fisol drwy gydol y flwyddyn fyddai'r 'safon aur', ond er mwyn cadw costau i lawr, dim ond ar adegau pwysig o'r flwyddyn y gellir ei wneud.
  • Dylai pob buwch gael (o leiaf) dri recordiad (mis ar wahân) cyn sychu, gyda'r olaf o fewn 30 diwrnod i sychu.
  • Dylai pob buwch gael eu cofnodi (o leiaf) ddwywaith (mis ar wahân) ar ôl lloia, gyda'r cyntaf o fewn 30 diwrnod ar ôl lloia.
    •  Mae hyn yn bwysig ar gyfer monitro llwyddiant SDCT.
  • Dyma’r amseriadau ar gyfer bloc lloia nesaf Tyddyn Cae yn 2024

 

Protocolau Therapi Dethol i Fuchod Sych ar gyfer Tyddyn Cae

  • Argymhellir eich bod yn ofalus wrth ddewis buchod ar gyfer eu sychu â seliwr yn unig.
  • Dylai buchod fod ar lai na 100,000 o gelloedd/ml ar BOB UN o'u tri recordiad diwethaf.
  • Dylai heffrod fod ar lai na 75,000 o gelloedd/ml ar BOB UN o'u tri recordiad diwethaf.
  • Ni ddylai anifeiliaid gael DIM achosion o fastitis yn ystod y cyfnod llaetha hwn.
  • Dylai anifeiliaid fod yn cynhyrchu llai na 15kg y dydd ar adeg sychu.

Darganfyddwch ragor ar y pwnc hwn: 
Godro pob tamaid (Ymweliad Iechyd y Pwrs/Cadair Cyswllt Ffermio)
Asesu arferion godro yn Ffosyficer | Cyswllt Ffermio