Caroline Dawson
Enw: Caroline Dawson
E-bost: caroline.dawson@agrisgop.cymru
Lleoliad: Sir y Fflint/ Yn gweithredu o gwmpas Gogledd a Chanolbarth Cymru
Rhif ffôn: 07813084386
Arbenigedd: Arallgyfeirio (Bwyd-amaeth); Rheoli a chynllunio busnes; Gwerthu uniongyrchol; Arloesedd; Marchnata; Datblygiad personol; Twristiaeth
Ar ôl rhedeg nifer o fusnesau gwledig llwyddiannus yn cynnwys bwyd, llety, gweithgareddau awyr agored, a’i hymgynghoriaeth wledig ei hun - oedd yn cynnwys ymdrin â’i chyllid ei hun, datblygiad personol ac adnoddau staffio, mae Caroline yn deall pwysigrwydd bod â disgwyliadau realistig ac mae ganddi brofiad personol sylweddol o’r hyn y mae’n ei gymryd i sefydlu a rheoli menter arallgyfeirio lwyddiannus ar fferm.
Mae agwedd flaengar sy’n canolbwyntio ar atebion Caroline yn cefnogi busnesau newydd a rhai amlwg sydd wedi hen sefydlu. Fel arweinydd Agrisgôp bydd yn eich annog i sefydlu systemau fydd yn eich galluogi i gyflawni deilliannau tymor hir ac uchel eu gwerth, a bydd am eich helpu i gyflawni eich nodau personol a busnes.
Busnes presennol
Mae Caroline yn ymgynghorydd bwyd-amaeth arbenigol sydd wedi sefydlu a rhedeg ei Hymgynghoriaeth Bwyd-Amaeth lwyddiannus ei hun ers 2018.
Cymwysterau/llwyddiannau/profiad
- BSc Anrhydedd mewn Gwyddor Amgylcheddol (Prifysgol Glyndŵr)
- Tystysgrif Ôl raddedig mewn Arwain Newid (Prifysgol Aberystwyth)
- Aelod Proffesiynol o’r Sefydliad Rheolaeth Amaethyddol
- Mentor Byd-eang yn y gorffennol ar gyfer Menywod mewn Bwyd ac Amaeth
- Her Arweinyddiaeth Wledig y Worshipful Company of Farmers, Duchy College
- Enillydd Gwobr Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog i Fusnesau Gwledig Newydd
- Ffermwr Ifanc y Flwyddyn yn y gorffennol