Peter & Jacob Anthony
Cwmrisca Farm, Tondu, Bridgened

 

Dechrau ffermio mewn dull adfywiol – Canllaw cam wrth gam 

Mae fferm Cwmrisca yn fferm ucheldir 283ha wedi’i lleoli yn Nhondu, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r ffermwr pumed genhedlaeth, Jacob Anthony, yn gweithio ochr yn ochr â’i rieni, Peter ac Emma. Mae’r teulu wedi bod yn ffermio fferm Cwmrisca ers 1926. Mae’r fferm yn cadw 1100 o famogiaid Llŷn x Texel Seland Newydd a 250 o wartheg, sy'n cynnwys 90 o wartheg sugno Henffordd croes a Gwartheg Duon Cymreig croes. Mae’r tir yn codi o 450 troedfedd i 850 troedfedd.

Mae’r teulu Anthony wedi arallgyfeirio eu gweithrediadau i gynnwys caeau rhedeg i gŵn, porthiant i geffylau, a busnes contractio, yn ogystal â ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys tyrbin fferm 11kW a boiler biomas coed 60kW.

Mae gan Peter a Jacob ddiddordeb penodol mewn archwilio arferion ffermio mewn dull adfywiol.

Trwy weithio gyda fferm Cwmrisca, byddwn yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer gaeafu gwartheg, a fydd yn cynnwys edrych ar wahanol opsiynau cnydau a strategaethau rheoli pori. Bydd rheolaeth y borfa ar gyfer y defaid ar fferm Cwmrisca hefyd yn cael ei ystyried.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon
  • Lliniaru peryglon llifogydd a sychder
  • Cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Dal a storio cymaint o garbon â phosibl
  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Nantyrhebog
Michael James Nantyrhebog, Carmarthen Ymchwilio i’r elw posibl ar
Brynllech Uchaf
Rhodri and Claire Jones Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn
Dylasau Uchaf
Beca Glyn Dylasau Uchaf, Conwy Mae Dylasau Uchaf yn awyddus i