Mae mesur glaswellt a chynllunio ar gyfer pori cylchdro yn y gwanwyn yn rhai o’r prif bethau y gall ffermwyr eu gwneud nawr i wneud y defnydd gorau posib o laswellt a lleihau biliau dwysfwyd costus.

Yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd ddoe ar fferm Trawscoed, ger Aberystwyth - un o Safleoedd Arloesedd

trawscoed 2 0
Cyswllt Ffermio - bu Noel Gowan, o gwmni Grasstec, yn trafod rheolaeth pori gyda grŵp mawr o ffermwyr. Yn ogystal ag amlinellu sut y dylid creu cyllidebau glaswellt ar gyfer eich buches a strategaethau i wella cyfraddau twf trwy gydol y flwyddyn, megis dilyn yr ‘egwyddor tair deilen’, bu Mr Gowan hefyd yn trafod cynllunio a rheoli cylchdro effeithiol ar gyfer eich fferm.

Amlygodd hefyd y newidiadau isadeiledd a argymhellwyd ar fferm Trawscoed er mwyn ymestyn y tymor pori a chynhyrchu mwy o laeth o borthiant. Bydd adroddiad llawn o’r digwyddiad ar gael yn fuan.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermydd newydd i ymuno â Rhwydwaith Ein Ffermydd ar gyfer 2026
16 Mawrth 2026 Mae Cyswllt Ffermio yn gwahodd ceisiadau gan
Curwch y cnoiad a brechwch yn gynnar, gweithredwch nawr i amddiffyn eich stoc rhag y Tafod Glas!
11 Mawrth 2026 Gyda'r misoedd cynhesach yn agosáu, anogir
Tyfu ar gyfer twf E-fwletin Garddwriaeth gan Cyswllt Ffermio – Tymor y gwanwyn 2026