Dyma gwrs hyfforddi deuddydd gydag asesiad integredig. Rhoddir tystysgrif Gwlân Prydain ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus.
Ar gael i ymgeiswyr sydd eisoes wedi cwblhau cwrs cneifio defaid gyda pheiriant drwy Raglen Cyswllt Ffermio ac sydd nawr yn dymuno cael cwrs ar lefel uwch i adeiladu ar a gwella’r sgiliau sydd ganddynt eisoes.
Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth i chi allu sefydlu, cynnal, iro ac addasu offer cneifio er mwyn gweithio’n ddiogel a phriodol, yn unol â llawlyfr y gwneuthurwr. Trin defaid gan ystyried lles yr anifail a diogelwch personol. Cneifio defaid mewn modd cymwys, heb gymorth, i’r ansawdd a’r safonau ansoddol fel sy’n ofynnol gan gynllun ardystio Gwlân Prydain. Cyflwyno’r cynnyrch gwlân i'w werthu, gan ddeall pwysigrwydd ffactorau sy’n effeithio ar ei werth.
Cysylltwch â'r Bwrdd Gwlân yn uniongyrchol i archebu'r cwrs. Peidiwch ag archebu trwy eu gwefan.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
*Nodwch fod hwn yn gwrs tymhorol ac felly nid yw ar gael i’w ddewis yn ffenestr sgiliau Mai / Mehefin.*