Cwrs hyfforddiant dros 5 diwrnod gydag asesiad annibynnol a thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae hwn yn gwrs ymarferol sy’n darparu sgiliau ymarferol a chanllawiau iechyd a diogelwch, yn ogystal â darparu tystiolaeth i chi a’ch cyflogwr eich bod wedi cwblhau hyfforddiant digonol er mwyn bodloni Rheoliadau Darparu a Defnyddio Offer Gwaith (Provision and Use of Work Equipment Regulations 1998 (PUWER)).
Mae’r cwrs hwn yn gyfuniad o’r cwrs “Cynnal a Chadw Llif Gadwyn a Thrawslifio” a’r cwrs “Cwympo a Phrosesu Coed dros 380mm”.
Dros gyfnod o 5 diwrnod, byddwch yn datblygu’r holl wybodaeth a’r hyder angenrheidiol er mwyn gallu gweithio gyda llif gadwyn yn ddiogel ac yn effeithlon. Bydd sesiynau ymarferol wedyn yn eich galluogi i ddatblygu a mireinio eich sgiliau trawslifio, cwympo coed a gwaredu brigau.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: