Cwrs hyfforddiant undydd gydag asesiad ar wahân, a rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rhai sy’n gweithio ar lefel oruchwyliol neu reolaeth ar hyn o bryd neu’n dymuno gwneud hynny, ac eisiau gwella eu dealltwriaeth o iechyd a diogelwch. Fel goruchwyliwr, mae gennych chi gyfrifoldeb cyfreithiol a moesegol i ofalu am iechyd a diogelwch eich gweithwyr. Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn trafod ystod o bynciau iechyd a diogelwch gan gynnwys: deall gofynion iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle, gofynion cyfreithiol, manteision defnyddio system iechyd a diogelwch a deall y risgiau a’r dulliau o reoli peryglon cyffredin yn y gweithle.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Dysgu Bro Ceredigion gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.