Bwriad y cwrs deuddydd hwn yw cefnogi rheolwyr a goruchwylwyr o unrhyw sector diwydiant/busnes i ddeall effaith y goblygiadau strategol a gweithredol mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn cael arnyn nhw, eu tîm a’u hadran. Mae’n eich galluogi i gyfrannu at wella cynaliadwyedd amgylcheddol eich sefydliad, ac mae'n ffordd ddelfrydol a chyflym o uwchsgilio eich gweithlu, a’r rhai sy’n gyfrifol am orchwylio canlyniadau strategol eich sefydliad. Mae busnesau rhyngwladol enwog fel Arriva, Interserve a Hanson eisoes wedi lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd ac wedi gwella eu helw drwy Sgiliau Cynaliadwyedd ar gyfer y Gweithlu – archebwch nawr i uwchsgilio eich gweithlu ac i wella eich perfformiad, eich effeithiolrwydd a’ch effaith. Mae Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol – Ar gyfer y Rheolwyr yn gwrs pontio sy’n adeiladu ar y wybodaeth hon ac sy’n manylu ar faterion ymhellach, gan ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen ar reolwyr a goruchwylwyr i ehangu eu gorwelion o ran eu gwybodaeth a’u sgiliau. Mae hwn yn gwrs delfrydol ar gyfer arweinwyr tîm a rheolwyr sydd eisiau goruchwylio gwelliannau eu sefydliad.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: