Cwrs undydd gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Gall cymorth cyntaf fod yn hanfodol nes bod gweithwyr meddygol proffesiynol yn cymryd yr awenau. Mae’r cwrs hyfforddiant hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai a allai fod angen rhoi cymorth cyntaf yn y gweithle; mae wedi’i lunio i fod yn addas ar gyfer unigolion o fewn y sefydliad, nid rheolwyr yn unig.
Mae hwn yn gwrs undydd ynghyd ag asesiad. Byddwch yn dysgu’r technegau allweddol er mwyn rhoi cymorth cyntaf mewn argyfwng.
Mae’n werth nodi bod tystysgrifau Cymorth Cyntaf yn y Gweithle mewn Argyfwng yn ddilys am dair blynedd.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a FfermioMae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Dysgu Bro Ceredigion gyflwyno rhan o'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.