Cwrs hyfforddiant dros 3 diwrnod gydag asesiad annibynnol a thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Gall cwympo coed fod yn dasg beryglus. Dyna pam mae’n bwysig sicrhau eich bod yn meddu ar yr hyder, y ddealltwriaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn gwneud hynny’n ddiogel. Mae’r cwrs yn seiliedig ar gwympo a phrosesu coed hyd at 380mm; mae’n addas ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau’r elfen Cynnal a Chadw Llif Gadwyn a Thrawslifio yn unig, ond sydd bellach eisiau symud ymlaen i gwympo coed bach. Byddwch yn trafod technegau trawslifio a gwaredu brigau, yn ogystal â thechnegau cwympo ar gyfer coed hyd at 380mm o ddiamedr.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: