Cwrs hyfforddiant undydd ymarferol gyda thystysgrif hyfforddiant ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Mae ŵyna yn sgil sylfaenol hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda mamogiaid. 

Bydd cwrs Technegau Ŵyna yn eich cynorthwyo i wybod beth allwch chi ei wneud eich hun a beth sydd angen sylw gan filfeddyg arbenigol. Mae’r cwrs wedi cael ei lunio i adnabod mamogiaid sy’n cael trafferthion ŵyna, archwilio’r famog, ŵyna neu ofyn am gymorth. Byddwch yn derbyn gwybodaeth gefndirol er mwyn eich paratoi ac adnabod arwyddion ŵyna. Byddwn yn defnyddio efelychwr ŵyna ar gyfer y gweithgareddau ymarferol. Bydd y sesiynau’n ymdrin â pharatoi ar gyfer ŵyna, adnabod arwyddion ŵyna, genedigaeth normal, ŵyna, ymdrin â genedigaethau annormal, a gofal ar ôl ŵyna.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

Embryonics Ltd

Enw cyswllt:
Stella Rutter


Rhif Ffôn:
01606 854411


Cyfeiriad ebost:
courses@embryonicsltd.co.uk


Cyfeiriad gwefan:
www.embryonicsltd.co.uk


Cyfeiriad post:
Mere House Farm, Weaverham, Northwich, CW8 3PY


Ardal:
Cymru gyfan

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Cadw Llyfrau, TAW a Gwneud Treth yn Ddigidol
Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb yn
Cynnal a Chadw Llif Gadwyn, Trwslifio, Torri a Phrosesu Coed hyd at 380mm
Cwrs hyfforddiant dros 5 diwrnod gydag asesiad annibynnol a
Hylendid a Bioddiogelwch (Pasbort Dofednod)
Cwrs hyfforddiant hanner diwrnod, a rhoddir tystysgrif ar ôl