Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei chyhoeddi ar ôl cyflawni’r gweithdy. Caiff y gweithdai eu darparu gan filfeddygfeydd lleol ledled Cymru. 

Bydd y rhai sy’n bresennol yn dysgu am y prif resymau dros golli ŵyn yn y cyfnod rhwng geni'r oen a’i ddiddyfnu a’r strategaethau rheoli y gellir eu defnyddio i leihau'r colledion hyn gymaint â phosibl. Byddwn yn canolbwyntio’n bennaf ar y cyfnod amenedigol, gan gynnwys rheoli maeth mamogiaid er mwyn lleihau dystocia a chryfhau bywiogrwydd ŵyn. Mae gwella hylendid yn ystod y tymor wyna hefyd yn hollbwysig i leihau’r risg o golli ŵyn oherwydd haint. Byddwn yn trafod bioddiogelwch a biogaethiwo, gan dynnu sylw at fannau y gellir eu gwella er mwyn lleihau gymaint â phosibl ar y risg o gyflwyno a lledaenu clefydau ar y fferm.

 

I weld dyddiadau nesaf y gweithdy hwn, cliciwch yma i fynd i’r dudalen ‘Digwyddiadau’. 


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

TB Mewn Gwartheg
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
Ymwrthedd i Wrthfiotigau
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif
Lleihau Cloffni mewn Gwartheg Llaeth
Mae’r cwrs hwn yn weithdy hyfforddiant 3 awr a bydd tystysgrif