Cynwyl Elfed, Caerfyrddin

Prosiect Safle Ffocws: Gwella effeithlonrwydd gwartheg sugno drwy sicrhau’r pwysau corff gorau i’r gwartheg llawn dwf

Nodau'r prosiect: 

  • Gwerthuso newidiadau ym mhwysau’r fuwch llawn dwf ac effeithlonrwydd y fuwch yn nhermau pwysau’r llo wrth ddiddyfnu fel canran o bwysau’r fuwch.
  • Casglwyd pwysau’r gwartheg a’r lloi yn ystod y cyfnod diddyfnu dros y bedair blynedd diwethaf. Bydd gwaith casglu a dadansoddi data pellach yn digwydd i asesu newidiadau yn effeithiolrwydd y fuwch gan symud o fridiau brodorol i eneteg gyfandirol; gwartheg yn lloia’n ddyflwydd oed yn hytrach na thair blwydd oed; a’r berthynas rhwng effeithlonrwydd y fuwch, sgôr cyflwr y corff a’r bwlch lloia.
  • Byddai lleihau pwysau’r fuwch lawn dwf yn golygu costau cynnal a chadw is i’r fuwch gan felly gynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb.
  • Gallai lloea’n ddyflwydd oed ostwng potensial twf dros oes y fuwch, er bod modd cynnal y defnydd o eneteg tyfiant uchel drwy dad y fam, a bydd hyn yn dal i gael ei drosglwyddo i’r llo.
  • Gallai lleihau’r bwlch lloia wella cynhyrchiant y fuwch sugno, ond ni ddylid ceisio gwella effeithlonrwydd drwy ddiddyfnu llo trymach ar draul cyflwr y corff gydag effaith ddilynol ar ffrwythlondeb.
  • Bydd pwysau’r fuwch a’r llo a sgorau cyflwr corff y fuwch yn cael eu casglu drwy ddarllennydd EID ar amser diddyfnu. Bydd oed y fuwch, y brid, nifer cyfnodau lloia a’r bylchau lloia’n cael eu dadansoddi hefyd.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Penlan
Fferm Penlan, Cenarth, Castell Newydd Emlyn Prosiect Safle Ffocws
Fferm Pied House
Fferm Pied House, Trefaldwyn, Powys Prosiect Safle Ffocws
Tirlan
Brechfa, Sir Gaerfyrddin Prosiect Safle Ffocws: Mapio a Rheoli