Cynwyl Elfed, Caerfyrddin
Prosiect Safle Ffocws: Gwella effeithlonrwydd gwartheg sugno drwy sicrhau’r pwysau corff gorau i’r gwartheg llawn dwf
Nodau'r prosiect:
- Gwerthuso newidiadau ym mhwysau’r fuwch llawn dwf ac effeithlonrwydd y fuwch yn nhermau pwysau’r llo wrth ddiddyfnu fel canran o bwysau’r fuwch.
- Casglwyd pwysau’r gwartheg a’r lloi yn ystod y cyfnod diddyfnu dros y bedair blynedd diwethaf. Bydd gwaith casglu a dadansoddi data pellach yn digwydd i asesu newidiadau yn effeithiolrwydd y fuwch gan symud o fridiau brodorol i eneteg gyfandirol; gwartheg yn lloia’n ddyflwydd oed yn hytrach na thair blwydd oed; a’r berthynas rhwng effeithlonrwydd y fuwch, sgôr cyflwr y corff a’r bwlch lloia.
- Byddai lleihau pwysau’r fuwch lawn dwf yn golygu costau cynnal a chadw is i’r fuwch gan felly gynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb.
- Gallai lloea’n ddyflwydd oed ostwng potensial twf dros oes y fuwch, er bod modd cynnal y defnydd o eneteg tyfiant uchel drwy dad y fam, a bydd hyn yn dal i gael ei drosglwyddo i’r llo.
- Gallai lleihau’r bwlch lloia wella cynhyrchiant y fuwch sugno, ond ni ddylid ceisio gwella effeithlonrwydd drwy ddiddyfnu llo trymach ar draul cyflwr y corff gydag effaith ddilynol ar ffrwythlondeb.
- Bydd pwysau’r fuwch a’r llo a sgorau cyflwr corff y fuwch yn cael eu casglu drwy ddarllennydd EID ar amser diddyfnu. Bydd oed y fuwch, y brid, nifer cyfnodau lloia a’r bylchau lloia’n cael eu dadansoddi hefyd.