Abercych, Boncath
Prosiect Safle Ffocws: Gwella Arferion Cyn Godro
Nodau'r prosiect:
- Gan ddefnyddio arferion safonol cyn godro, mae’r prosiect hwn yn anelu at wella ansawdd llaeth a lleihau’r amser a dreulir yn godro, niwed i’r tethi a nifer yr achosion mastitis. Gellir gwneud y gorau o gynnydd mewn cynnyrch a chyfle i fod yn gymwys i dderbyn bonws pris yn seiliedig ar gyfrif celloedd somatig/bactoscan, ynghyd â lleihau costau trwy wella arferion godro gan ganolbwyntio ar ollyngiad llaeth, gosodiadau graddnodi offer a datblygu protocolau.
- Bydd arferion godro presennol ar gyfer y fuches sy’n lloea yn yr hydref yn cael eu gwerthuso a bydd siartiau llif llaeth yn cael eu llunio ar gyfer pob buwch yn yr astudiaeth.
- Gall arferion gwell cyn godro wella ansawdd llaeth ac mae'n bosib y gall arwain at gynnydd o 5% mewn cynnyrch trwy annog gollyngiad llaeth mewn modd mwy effeithiol a sicrhau'r amseriad cywir rhwng y symbyliad cychwynnol a gosod y clwstwr, gan leihau amser godro i bob buwch.
- Gellir defnyddio archwiliadau effeithlonrwydd egni er mwyn mesur a all newidiadau i osodiadau parlwr leihau costau rhedeg yr offer. Bydd ansawdd llaeth yn cael ei fonitro a bydd arferion glanhau wedi’u teilwra’n cael eu datblygu ar gyfer y fferm.
- Bydd sgôr ar gyfer blaen y deth, cofnodion mastitis a chofnodion ansawdd llaeth yn monitro newidiadau mewn iechyd a lles anifeiliaid a gellir meithrin swabiau er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd arferion glanhau’r tethi cyn godro a gwelliannau trwy gydol y prosiect.