New Dairy Farm, Casnewydd, Sir Fynwy

Prosiect Safle Ffocws: Torri silwair sawl gwaith - Gwella treuliadwyedd a llaeth drwy borthiant

Nod y Prosiect

  • Mae’r diwydiant llaeth yn symud tuag at gynhyrchiant sy’n fwy cynaliadwy ac effeithlon ond gan barhau i gynyddu cynhyrchiant a chyfansoddion. Ond gyda phrisiau llaeth amrywiol a chostau dwysfwyd uchel mae ffocws cynyddol yn cael ei roi ar gynnyrch llaeth sy’n cael ei ennill drwy borthiant. O ganlyniad, mae’r cysyniad o dorri silwair sawl gwaith a rheoli’r clamp yn dod yn ddewisiadau hyfyw ar gyfer pob system.
  • Mae’r cysyniad torri sawl gwaith yn golygu monitro twf y borfa’n ofalus yn ystod cyfnod y cynhaeaf er mwyn cael 4 cynhaeaf neu fwy drwy’r tymor. Mae hyn yn sicrhau bod porfa ifanc a deiliog yn cael ei gynaeafu a’i silweirio, cyflawni mwy o ddeunydd sych, metaboleiddio egni a Gwerth D fel sy’n bosib.
  • Nod y prosiect yw monitro ansawdd y silwair (gwerth D) sydd wedi cael ei dorri sawl gwaith a’r effaith ar gynnyrch llaeth ac iechyd cyffredinol o gymharu â’r blynyddoedd diwethaf. Bydd ffocws yn cael ei roi ar oblygiadau ymarferol hefyd gan fod rheoli’r clamp yn hanfodol ar gyfer silweirio llwyddiannus a defnyddio silwair sy’n cael ei dorri’n amlach gyda phorfa o ansawdd gwell.

 


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Moelogan Fawr
Llion a Sian Jones Moelogan Fawr, Llanrwst, Conwy Meysydd
Hendre Ifan Goch
Rhys Edwards Hendre Ifan Goch, Pen-y-bont ar Ogwr ​​ Meysydd
Bodwi
Edward, Jackie a Ellis Griffith Bodwi, Mynytho, Pwllheli, Gwynedd