Diweddariad Prosiect New Dairy Farm

Mae’r system silwair aml-doriad yn ddull mwy blaengar o gynhyrchu porthiant gartref. Mae’r system yn golygu cymryd toriadau silwair yn amlach bob 28-30 diwrnod, yn hytrach na’r system tri thoriad mwy traddodiadol a ddefnyddir yn y DU. Prif fantais torri glaswellt iau yw’r cynnydd mewn treuliadwyedd gan fod mwy o ddail yn bresennol yn hytrach na choesynnau. Hefyd, mae’r cynnwys protein yn dueddol o fod yn uwch, gan gynhyrchu porthiant mwy treuliadwy a fydd yn treulio llai o amser yn y rwmen. Felly gall gwartheg fwyta mwy o’r silwair, gan wella cymeriant porthiant. Yn ogystal, mae cynaeafu’r glaswellt yn ystod cyfnod twf mwy unffurf yn arwain at lai o amrywiaeth yn y clamp, ac felly yn y dogn dyddiol. Er bod cost uwch ar gyfer cynaeafu’r silwair o ganlyniad i fwy o waith tractor, bydd cynhyrchu porthiant o ansawdd uwch yn cynyddu cynhyrchiant llaeth, gan ad dalu’r cynnydd mewn costau cynaeafu a mwy.

Mae’r system hon wedi cael ei mabwysiadu ar safle ffocws New Dairy ar gyfer prosiect sy’n edrych ar fanteision y dull aml-doriad. Gyda’r tywydd llym eleni, mae tri thoriad o silwair wedi cael eu cymryd ar dir cynnar a dau doriad ar dir trymach yn hwyrach. Mae lefelau lleithder y pridd wedi bod yn gostwng o ganlyniad i’r tywydd eithafol gan achosi i’r tir losgi ac mae’r ail dyfiant wedi bod yn wael. O ganlyniad, penderfynwyd cynhyrchu byrnau ar y trydydd toriad ar diroedd trymach i leihau costau cynaeafu. Mae’r fferm yn gobeithio cael 4ydd toriad erbyn diwedd Awst gan gymryd y bydd y tywydd arferol yn dychwelyd.

Cymerwyd y toriad cyntaf mewn dau brif doriad ar y fferm. Cwblhawyd y toriad cyntaf ar 20fed Ebrill dros 194 erw, gan gynhyrchu 570 tunnell gyda 2.93 tunnell i’r erw ar gyfartaledd. Cymerwyd y toriad cyntaf arall ar 15fed o Fai dros 269 erw gan gynhyrchu 950 erw gyda 3.54 tunnell i’r erw ar gyfartaledd. Cymerwyd sampl o’r silwair aml-doriad cyntaf sy’n cael ei fwydo ar hyn o bryd (prif doriad cyntaf oddi ar dir trwm a dorrwyd ar 15fed o Fai). Mae’r dadansoddiad yn dda iawn:

  • Gwerth treuliadwyedd (D vale) 72
  • Egni metaboladwy (ME) 11.6
  • Protein crai (CP) 16.7
  • Deunydd sych (DM) 41.8

Ers bwydo’r silwair toriad cyntaf, mae’r cynnyrch llaeth wedi cynyddu o 30 litr y fuwch y dydd i 34 litr y fuwch y dydd ers ei gyflwyno ar ddechrau Mehefin o fewn y grŵp uwch. Mae hyn o ganlyniad i gyfran uchel o silwair o ansawdd uchel yn cael ei gyflwyno i’r diet. Yn ogystal, mae cyfansoddiad tail, cyflwr corff, cyfansoddion llaeth ac yn bwysicaf oll, ffrwythlondeb, wedi gwella ers ychwanegu’r silwair toriad cyntaf i’r dogn. O ganlyniad i ansawdd uchel y silwair, mae’r fferm wedi gallu gwneud arbedion sylweddol bob mis ar gostau silwair o ganlyniad i dynnu 1.5 kilo o gymysgedd o’r dogn ar gyfer bob buwch a chynyddu cynnyrch llaeth ar yr un pryd.

Er nad yw’r system yn gweddu i bob fferm o reidrwydd, mae manteision y dull aml-doriad i’w gweld ar fferm New Dairy. Mae’r prosiect wedi dangos gwelliannau ariannol sylweddol o ganlyniad i sicrhau mwy o gynhyrchiant llaeth o’r porthiant a gwneud y defnydd gorau posibl o fwydydd a dyfir gartref.