10 Medi 2019

 

Caiff y term “aml-doriad” ei ddefnyddio’n helaeth i ddisgrifio system cynhyrchu silwair ble caiff y silwair cyntaf ei dorri’n gynnar, ac yna caiff ei dorri’n amlach trwy gydol yr haf.    

 

Pam silwair aml-doriad?

Mae’r system yn caniatáu i’r fferm dyfu rhagor o borthiant o ansawdd gwell.  Mae angen newid meddylfryd i wneud hyn, gan ystyried y clamp silwair yng nghyd-destun megajouleau (MJ) o egni a chilogramau (kg) o brotein yn hytrach na dim ond tunelli metrig.  Ni wnaiff unrhyw doriad lenwi’r ysgubor, ond trwy gydol y tymor, byddwch yn cynaeafu mwy o ddeunydd sych yr hectar (DM/Ha), oherwydd bydd adlodd y glaswellt yn wyrddach a bydd y cae yn ffotosyntheseiddio a ragor o ddyddiau yn ystod flwyddyn. 

Mae hybu mwy o dwf fesul hectar yn gwella defnydd o’r tir, sy’n caniatáu cyfraddau stocio uwch.  Mae hyn yn ei droi yn lleihau’r angen i gyrchu porthiant o fannau eraill, sy’n gwella’r gallu i reoli ansawdd y borfa.

Mae’r system yn lleihau risg trwy dri dull:

  • mae cyfraddau uwch o borthiant mewn cymhariaeth â dwysfwyd yn lleihau’r risg o anhwylderau’r rwmen
  • mae cynhyrchu mwy o laeth gan ddefnyddio cnydau yn golygu bod y fferm yn llai agored i risgiau marchnadoedd porthiant anwadal
  • gellir gwneud toriadau llai yn gyflymach, sy’n golygu y gellir elwa o gyfnodau byrrach o dywydd da.  Os bydd hi’n glawio, gellir sychu cyfansymiau llai o silwair yn gyflymach, a bydd y silwair o bob toriad yn gyfran lai o gyfanswm y porthiant sydd angen ei gynhyrchu.

Cymysgeddau glaswellt dewisol:

Dylai cymysgeddau glaswellt ddefnyddio mathau o’r Rhestr o Laswelltau a Meillion a Argymhellir  oherwydd mae lefel eu cynnyrch, eu hansawdd a’u nodweddion o ran eu gallu i wrthsefyll clefydau, a’u haddasrwydd ar gyfer amgylchiadau penodol y fferm, wedi cael eu cadarnhau.  Fe wnaiff rhygwellt lluosflwydd canolig a hwyr ddarparu cynnyrch o ansawdd uchel trwy gydol y tymor.

Mae mathau o rygwellt Eidalaidd yn dueddol o fod yn llawer anoddach eu rheoli; bydd yn anodd eu sychu wedi’r toriad cyntaf a bydd ansawdd canol tymor yn llawer is nag yn achos mathau lluosflwydd oherwydd byddant yn tueddu i hedeg yn gyflymach.

Fe wnaiff polisi ail-hadu rheolaidd uchafu’r cyfanswm a’r ansawdd.  Bydd datblygiadau sylweddol yn digwydd ym maes bridio glaswellt bob blwyddyn, a dylid manteisio ar unrhyw ddatblygiadau (fel arfer, ni fyddech chi’n defnyddio gwelltyn o semen gan darw sy’n 20 mlwydd oed a disgwyl cael y canlyniadau gorau).  Hyd yn oed os cânt eu rheoli’n wych, fe wnaiff porfeydd ddirywio maes o law.  Yn ddelfrydol, dylid ail-hadu neu adnewyddu porfeydd lluosflwydd bob 5-6 mlynedd, felly ceisiwch ail-hadu 15-20% o’r arwynebedd bob blwyddyn, i sicrhau na fydd yn rhaid i chi roi sylw i’r holl borfeydd ar yr un pryd.

 

Gwrtaith:

Os ydym ni’n disgwyl i laswellt gynhyrchu mwy na’r hyn mae arnom ei angen, mae’n rhaid i ni sicrhau bod y glaswellt hwnnw yn cael bob cyfle i gyflawni’r targedau hynny; ni fydd yr athletwyr gorau yn perfformio’n llwyddiannus os cânt ddeiet israddol.  Bydd faint y gellir ei ddisgwyl yn dibynnu ar ddosbarth twf glaswellt y cae a’r fferm, a chaiff hynny ei bennu’n bennaf gan y math o bridd a’r glawiad, ond mae lleoliad ac uchder yn cyfrannu hefyd.    Mae Tabl 1 isod yn amlinellu sut cyfrifir dosbarthiadau twf (ffynhonnell RB209 2017).

multi cut

Tabl 1

 

Fel y gwelir yn y graff isod, hyd yn oed os chwalir y cyfraddau uchaf o wrtaith nitrogen ar y tir, bydd y cynnyrch y gallwch chi ei ddisgwyl mewn mannau sydd â photensial gwael o ran twf tua hanner yr un borfa, fwy neu lai, dan amgylchiadau sy’n cynnig twf da (ffynhonnell RB209 2017).

multi cut graph

 

Bydd cyfran helaeth o iseldir Cymru yn y categorïau ‘Da’ eu ‘Da Iawn’, felly caiff cyfraddau uwch o wrtaith eu defnyddio’n effeithiol.

Dylid profi pH a statws maetholion priddoedd bob 3 neu 4 blynedd.  Dylid targedu pH o 6.5, oherwydd bydd effeithlonrwydd cymeriant maetholion yn lleihau yn sylweddol o dan pH 6.

Bydd torri’n amlach yn golygu y gellir defnyddio llai o slyri a’i ddefnyddio’n amlach.  Argymhellir yn gryf y dylid profi gwrtaith organig, a dylid chwalu gwrtaith yn fanwl gywir i osgoi cyflenwi gormod neu rhy ychydig o faetholion penodol, oherwydd gall 34 m3/ha (3000 galwyn fesul erw) hyd yn oed gyflenwi gormod o Botasiwm (K).

Dylid chwalu slyri a gwrtaith mor gyflym ag y bo modd wedi bob cynhaeaf silwair.  Mae esgidiau llusg neu fariau diferu yn well, oherwydd fe wnânt gynorthwyo i atal dail rhag cael eu halogi a lleihau colledion o nitrogen i’r amgylchedd.

Mae RB209 yn argymell chwalu 40kg/Ha o sylffwr triocsid (SO3) ar gyfer pob toriad mewn system tri thoriad - yn achos system aml-doriad, dylech ostwng hyn i 30kg/Ha o SO3 4 gwaith.

 

Adeg torri:

Ceisiwch dorri yn ystod y cyfnod cyntaf o dywydd braf ym mis Mai a thargedwch chwalu nitrogen yn unol â hynny.  Dylid anelu at wneud toriadau dilynol o silwair wedi ysbeidiau o 35 diwrnod, ond dylech fod yn barod i wneud hyn wedi ysbeidiau o 30 diwrnod os bydd y tywydd yn addas.

Mae cyfraddau twf yn allweddol er mwyn sicrhau cynnyrch da wedi’r ysbeidiau byr hyn.  Mae’r ffotograffau isod yn dangos cymaint yn fwy effeithiol yw system aml-doriad o ran ei allu i amsugno golau’r haul.  Fe aiff sawl diwrnod heibio cyn i’r borfa a dorrwyd yn hwyrach (ar y dde) adfer a chychwyn blaguro er mwyn gallu cychwyn ffotosyntheseiddio a thyfu unwaith eto.

          

multi 2

Torri:

I alluogi’r effeithiolrwydd mwyaf, dylai’r holl beiriannau fod â’r un capasiti i sicrhau fod gan yr holl weithrediadau yr un gyfradd gwaith fesul awr. Dylid anelu at uchder torri o 6-7cm i annog cyfraddau ffotosynthetig gweddilliol, sy’n hanfodol, yn enwedig yn achos porfeydd newydd.  Bydd torri’n rhy isel yn cynyddu’r posibilrwydd o straen yn sgil sychdwr oherwydd bydd y planhigyn yn ailgyfeirio egni ar gyfer twf gwreiddiau i ffurfio dail newydd yn absenoldeb ffotosynthesis.  Ceir posibilrwydd o golli hyd at 14 diwrnod o amser aildyfu os na fydd unrhyw ddail gweddilliol neu os bydd niwed i’r meristem apigol; gall hyn achosi colledion o hyd at 1000kg o ddeunydd sych yr hectar fesul toriad.

 

Chwalu:

I leihau colledion yn y caeau, dylid targedu deunydd sych o 35% o leiaf, a dylid cyflawni hynny o fewn 24 awr wedi torri’r borfa.  Dylid chwalu yn unol ag amgylchiadau’r tywydd a phwysau’r cnwd (efallai bydd angen chwalu rhai cnydau ddwywaith, ac efallai na fydd angen chwalu eraill o gwbl).  Os bydd hynny’n ofynnol, dylid chwalu glaswellt yn syth ar ôl ei dorri i ganiatáu i’r arwynebedd arwyneb mwyaf gael ei amlygu i’r elfennau yn ystod y ddwy awr allweddol pan fydd y stomata yn agored.

 

Hyd y Glaswellt a Dorrir:

Bydd hyd y glaswellt a dorrir yn amrywio yn ôl deunydd sych cnydau.  Bydd ar gnydau gwlypach angen eu torri’n hirach i’w hatal rhag troi’n slwtsh.  Os bydd dros 32% o Ddeunydd Sych, gellir lleihau hyd y glaswellt a dorrir i 25mm neu’n fyrrach na hynny hyd yn oed os defnyddir system porthiant cywasgedig.  Dylai glaswellt deiliog ifanc gywasgu’n dda beth bynnag, ond fe wnaiff torri glaswellt yn fyrrach ganiatáu cydgrynhoi gwell.  Yn gyffredinol, bydd cymeriant yn uwch os torrir glaswellt yn fyrrach.

 

Clampio:

Dylai’r capasiti clampio bennu cyflymder y gwaith cynaeafu.  Llenwch y clamp â haenau hir, bas, yn hytrach na’r lletemffurf traddodiadol.  Os gellir clampio silwair aml-doriad mewn clampiau, fe wnaiff hyn arwain at ddeietau mwy cyson ar adeg porthi allan.  Defnyddiwch dractor ychwanegol ar y domen silwair os gallwch chi, neu defnyddiwch “Silopactor”.

  • Dylid anelu at 250kg o ddeunydd sych fesul m3 yn y clamp.

Ychwanegion:

Mae ychwanegion yn gost effeithiol, ond mae angen i chi ddefnyddio’r rhai priodol i sicrhau buddion, ac nid ydynt yn gwneud iawn am dechnegau gwneud silwair gwael.  Y nod yw cyflawni pH cnwd porthiant sy’n briodol ar gyfer ei ddeunydd sych mor gyflym ag y bo modd, oherwydd bydd unrhyw amser ychwanegol yn defnyddio maetholion gwerthfawr.

Caiff glaswellt ei amlygu i oleuni uwchfioled yn ystod y broses wywo, felly caiff y “bacteria da” eu lladd yn ogystal â’r rhai llai dymunol.  I sicrhau eplesu priodol sy’n cynhyrchu silwair sefydlog ag asid lactig yn bennaf, gall dos o’r math priodol o facteria fod yn ddefnyddiol iawn,

Dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd ychwanegu lactobacillus plantarum yn sbarduno’r eplesu priodol. Chwiliwch am gynnyrch sy’n cyflenwi 1,000,000 o facteria (cfu) am bob gram o laswellt a gaiff ei drin.  Os bydd porthi allan yn araf neu os bydd silwair yn cael ei borthi yn ystod yr haf, gall bacteria sy’n cynhyrchu rhywfaint o asid asetig neu gadwolyn megis potasiwm sorbad fod yn llesol o ran sefydlogrwydd y clamp.   

Fodd bynnag, bydd eplesu asetig yn defnyddio mwy o egni ac ni fydd gan y silwair botensial mor uchel o ran cymeriant.  Yn gyffredinol, bydd angen cyfraddau sylweddol iawn o ensymau i fod yn effeithiol, a bydd hynny’n eu gwneud yn rhy ddrud.     

 

Targedau:

Dylai buchod allu bwyta 15kg yr un o ddeunydd sych silwair ag egni metaboladwy uchel bob dydd.  Bydd hyn yn caniatáu cyfradd o 60:40 rhwng porthiant a dwysfwydydd ac yn sicrhau rwmen hynod o iach a chynhyrchu cyfansymiau sylweddol o laeth a solidau.

Bydd dulliau mwy dwys o reoli tir glas yn arwain at gynnydd yng nghyfanswm y cynnyrch fesul hectar (targed o 14t o ddeunydd sych yr hectar) a dylai rheoli’r clamp yn fanwl gywir leihau colledion yn sgil crebachu i 10%.

 

Costau:

Yn gyffredinol, bydd costau fesul cyfer yn uwch yn achos system aml-doriad oherwydd y lefelau uwch o fewnbynnau a chostau cynaeafu mwy.  Byddai holi eich contractwr am drefniadau prisio amgen yn ddefnyddiol (mae’r system yn gweithio’n dda iddynt oherwydd bydd yn ehangu cyfnod eu gwaith ac mae cnydau ysgafnach yn llawer llai beichud i beiriannau). Mae enghreifftiau o brisio amgen yn cynnwys talu fesul awr am y gwaith yn hytrach na fesul cyfer neu hyd yn oed fesul llwyth.

 

Mae tabl 2 isod yn cymharu system 3 thoriad â system 5 toriad gan ddefnyddio costau cynrychiadol.

Costau tyfu - £/erw/blwyddyn

3 thoriad

5 toriad

Costau sefydlu (porfa 5 mlynedd)

34

34

Gwrtaith a chwistrellu

98

128

Chwalu slyri

20

28

Chwalu gwrtaith/chwistrellu

16

24

Cynaeafu

175

275

Ychwanegion/llenni plastig

26

34

Costau rhentu tir

125

125

   

Cyfanswm

494

648

Tabl 2

 

Mae’n rhagdybio slyri safonol a gaiff ei chwalu ar y gyfradd fwyaf a ganiateir yn achos Parthau Perygl Nitradau, sef 250kg o N organig fesul hectar.

Mae Tabl 3 yn ddilyniant i’r dadansoddiad o gostau a welir uchod.

Er bod cost y pwysau ffres fesul tunnell fetrig yn is yn achos y system 3 thoriad, os ystyrir y systemau yng nghyd-destun deunydd sych, mae’r ffaith bod y system aml-doriad yn cynhyrchu mwy o ddeunydd sych trwy gydol y tymor yn sicrhau arbediad cost o ran cyfanswm y deunyddiau a ddefnyddir.  Os cyfrifir yr egni ychwanegol a gynhyrchir, mae hynny’n dangos y gwnaiff y system aml-doriad gynhyrchu dros 50% yn fwy o MJ fesul cyfer, sy’n sicrhau gostyngiad o 15% yn y gost fesul MJ.

Cynnyrch a Deunydd Sych

3 thoriad

5 toriad

Tunelli metrig fesul cyfer

15

17

Deunydd Sych

28

35

Tunelli  metrig o ddeunydd sych fesul cyfer

4.2

5.95

Colledion o’r clamp (%)

10

10

Cyfanswm a borthir (tunelli metrig o ddeunydd sych fesul erw)

3.78

5.35

   

Gwerthoedd maetholion

 

 

Egni Metaboladwy  (MJ fesul kg o ddeunydd sych)

10.8

11.7

Protein (% yn y deunydd sych)

14

16

   

Cost

 

 

Cost pwysau ffres (£oedd fesul tunnell fetrig a borthir)

36.59

42.35

Cost deunydd sych (£oedd fesull tunnell fetrig a borthir)

130.68

121.12

   

MJ fesul cyfer

40,824

62,595 (+53%)

Cost egni metaboladwy fesul MJ

1.21

1.04 (-14%)

Tabl 3

 

Anfanteision posibl silwair aml-doriad:

Mae mabwysiadu system aml-doriad yn cynnig llawer o fanteision, ond mae angen ystyried rhywfaint o anfanteision hefyd.  Dengys tabl dau fod y costau ymlaen llaw gryn dipyn yn uwch na system 3 thoriad safonol, er bod y buddsoddiad ychwanegol yn werth chweil.

Bydd ffermwyr sy’n defnyddio’r system yn dweud eu bod yn “cynhyrchu silwair trwy gydol yr haf” ac mae angen mwy o waith gosod llenni ar glampiau silwair a thynnu llenni oddi arnynt (tasg nad oes neb yn hoff ohonni), ac mae logisteg dod â chontractwyr i’r fferm yn amlach yn golygu mwy o amser rheoli.

Yn ystod tymor gwlyb, bydd mwy o symudiadau peiriannau dros y tir i gynaeafu a chwlu slyri yn cynyddu’r posibilrwydd o gywasgu pridd, a gall hynny leihau cyfansymiau dilynol y silwair y gynhyrchir.

Gall silweirio glaswellt deiliog anaeddfed sydd â chynnwys deunydd sych sy’n is na’r lefel ddelfrydol gynyddu’r posibilrwydd o rannau o glampiau silwair yn chwalu, yn enwedig pan roddir sawl toriad yn yr un clamp a gall haenau lithro dros ei gilydd. 

Fe wnaeth haf sych 2018 achosi cnydau ysgafnach o dan y system aml-doriad, ond fe wnaeth hynny effeithio ar bob system rheoli glaswellt.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr