14 Gorffennaf 2020

 

Mae ffermwr sy’n ceisio cynyddu cynhyrchiant gydol oes ei wartheg drwy ddethol geneteg effeithlon yn paratoi i ddarlledu’n fyw oddi ar ei fferm y mis hwn yn yr ail mewn cyfres o ddigwyddiadau yn Fyw o’r Fferm Arddangos a gynhelir gan Cyswllt Ffermio.

Mae William Hannah yn cynnal profion sgrinio genomeg ar ei loi benyw er mwyn dethol yr anifeiliaid cyfnewid gorau ar gyfer y fuches odro ar fferm Mountjoy, un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio ger Hwlffordd.

Gall ffermwyr sydd â diddordeb wylio ar Zoom o 19:30 ar 22 Gorffennaf i glywed Mr Hannah yn trafod y prosiect yn fyw oddi ar y fferm gyda Swyddog Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio, Dewi Hughes.

Fel un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio, mae Mountjoy wedi dechrau gweithio ar brosiect i wella cynhyrchiant gydol oes ei wartheg drwy ddethol geneteg effeithlon ar gyfer y fuches.

Dywed Simon Pitt, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio, sy’n goruchwylio’r prosiect, fod dethol ar sail genomeg yn cynnig nifer o fuddion o ran gwella cyfradd enillion genynnol mewn rhaglenni bridio buchod llaeth. 

“Un fantais sydd o ddiddordeb fel rhan o’r prosiect yw bod cynnal profion genynnol yn gallu rhagweld nodweddion genynnol tybiedig yn fwy cywir ar gyfer anifeiliaid ifanc,” meddai Simon Pitt.

Bydd Fern Pearston o AHDB yn ymuno â’r drafodaeth o bell, ac yn cynnig cyngor ynglŷn â datblygu rhaglen fridio effeithiol a chywirdeb dethol genomeg, a bydd yr arbenigwr glaswelltir annibynnol, Chris Duller, yn rhoi arweiniad ar leihau mewnbynnau nitrogen ar laswelltir a chynnwys meillion yn y borfa. 

“Yn ogystal â thrafod y prosiectau, bydd ein harbenigwyr yn ateb eich cwestiynau’n fyw ac yn cynnig cyngor ac argymhellion cyffredinol, gyda’r nod o’ch helpu i wella eich busnes,” meddai Dewi Hughes.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, cliciwch yma neu e-bostiwch simon.pitt@menterabusnes.co.uk

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn