Castellior, Pentraeth Road, Porthaethwy, Ynys Môn

Prosiect Safle Ffocws: Mesur ôl-troed carbon system pesgi gwartheg bîff tir isel: canfod cyfleoedd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar y fferm

Amcanion y prosiect:

Nod cyffredinol y prosiect hwn yw mesur ôl-troed carbon net system pesgi gwartheg bîff tir isel. Bydd yn golygu canfod faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir o weithgareddau’r fferm, yn ogystal â faint o garbon a gaiff ei ddal a’i storio er mwyn tynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer ar y fferm.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar yr elfen gynhyrchu (y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ar y fferm) gan geisio canfod cyfleoedd i liniaru nwyon tŷ gwydr i’r dyfodol. Gallai hon fod yn strategaeth hirdymor i Castellior, oherwydd y bydd yr amserlen ar gyfer gweithredu a mesur y strategaethau lliniaru yn para y tu hwnt i oes y prosiect hwn. Fodd bynnag, nod y prosiect fydd rhagweld effaith defnyddio strategaethau lliniaru penodol ar ôl-troed carbon y fferm i’r dyfodol. Bydd cael amcan o’r lefelau dal a storio carbon hefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer y fferm i’r dyfodol.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cefnllan
Neil Davies Cefnllan, Llangamarch, Powys Meysydd allweddol yr
Pendre
Tom a Beth Evans Pendre, Llanfihangel-y-Creuddyn, Aberystwyth
Moor Farm
Andrew Rees Moor Farm, Castell Gwalchmai, Hwlffordd Prif Amcanion