Yn nodweddiadol mae’n gwrs hyfforddi 2 ddiwrnod gydag asesiad ar ddiwrnod gwahanol. Bydd tystysgrif yn cael ei rhoi ar ôl ei orffen yn llwyddiannus.
PA1 = Mae’r cymhwyster hwn yn bodloni gofynion cyfreithiol y Rheoliadau Rheoli Plaleiddiaid ac yn gadael i chi weithio heb oruchwyliaeth yn y diwydiant. Er mwyn cyflawni’r cymhwyster hwn byddwch yn dangos eich gwybodaeth o’r Cod Ymarfer a Gymeradwywyd ar gyfer Cynhyrchion Diogelu Planhigion. Mae’n ofynnol i chi gwblhau’r cwrs yma cyn cwblhau cyrsiau ymarferol wrth chwalu plaleiddiad penodol.
PA2F = Rhaid i ymgeiswyr fod wedi mynychu cwrs hyfforddi Defnydd Diogel o Blaleiddiaid a/neu fod â Thystysgrif NPTC o Gymhwysedd mewn Defnydd Diogel o Blaleiddiaid (PA1) Uned Sylfaen.
Sylwer bod y cwrs hwn ar gyfer rhai sy’n rheoli chwyn gyda weed wiper a ddefnyddir gyda cherbyd pob math o dir (ATV). Trafodwch eich gofynion gyda’r darparwr o’ch dewis.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Diogelwch Plaladdwyr
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn: