Cwrs Sganio lleyg (Canfod beichiogrwydd yn eich gwartheg eich hunain)

Cwrs Hyfforddiant sganio lleyg 4 diwrnod wedi’i gymeradwyo gan DEFRA i Ffermwyr

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at bobl nad ydynt yn filfeddygon sy'n dymuno dysgu'r ddawn o ganfod beichiogrwydd at ddefnydd eu fferm eu hunain neu fel menter fasnachol. Sganio yw'r dull mwyaf cywir o ganfod beichiogrwydd mewn gwartheg. O'i gymharu â dulliau eraill, sganio yw'r dull mwyaf effeithiol o ran amser ac nid yw’n rhoi llawer o straen ar yr anifail. Mae'r gallu i ddyddio beichiogrwydd a phenodi gwartheg swynog yn gynnar yn rhoi mantais enfawr i ffermwyr wrth gynllunio ymlaen llaw.

Mae'r cwrs cynhwysfawr hwn yn cwmpasu'r modiwlau canlynol, gyda chyfranogiad ymarferol helaeth:

  • Anatomeg Rhanbarth y Pelfis
  • Ffisioleg Atgynhyrchu 
  • Theori Sonograffeg Uwchsain
  • Technegau Sganio – yn cynnwys trafod a defnyddio sawl model o beiriannau sganio 
  • Lles Anifeiliaid
  • Hylendid Gweithredwr a Rheoli Clefydau
  • Theori a ffiseg Uwchsain
  • Cadw Cofnod
  • Gweithwyr lled-broffesiynol a’r gyfraith

(Trwy garedigrwydd Embryonics Ltd).

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant i gael rhagor o wybodaeth. 

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Embryonics Ltd

Enw cyswllt:
Stella Rutter


Rhif Ffôn:
01606 854411


Cyfeiriad ebost:
courses@embryonicsltd.co.uk


Cyfeiriad gwefan:
www.embryonicsltd.co.uk


Cyfeiriad post:
Mere House Farm, Weaverham, Northwich, CW8 3PY


Ardal:
Cymru gyfan

I weld y cwrs ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Sgôr Cyflwr y Corff
Cyflwyniad Mae Sgôr Cyflwr y Corff yn ffordd effeithiol o fonitro
Elite Wool Industry Training UK – Cwrs Cneifio i Ddechreuwyr
Mae hwn yn gwrs hyfforddi deuddydd a fydd yn cynnwys cyfarwyddyd
Y Rheolwr Gwledig – Rheoli Amser
Trosolwg: Mae'r cwrs undydd hwn wedi'i gynllunio ar gyfer