Mae maeth yn effeithio ar berfformiad y ddiadell yn yr hirdymor – o fewnblaniad yr embryo drwy gydol eu hoes. Mae nifer o amcanion yn ymwneud â maeth y famog sy’n effeithio ar gynhyrchiant a phroffidioldeb y ddiadell yn y pen draw, megis sicrhau’r cyfraddau beichiogi gorau posibl a gwella goroesiad yr embryonau, yn ogystal â chynyddu niferoedd ŵyn a gwella cyfraddau goroesiad ŵyn.

Os hoffech chi ddatblygu mwy o wybodaeth ac ehangu eich dealltwriaeth am y pwnc hwn, cwblhewch ffurflen gais erbyn 12yp 10 Hydref 2022 am gyfle i fynychu gweithdy Meistr ar Faeth Defaid. Gallwch wneud hyn drwy glicio ar y ddolen isod.

Trwy fynychu’r gweithdy hwn, byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o fanteision gwella maeth y famog feichiog. Bydd y gweithdy’n trafod sut i: wella cyfraddau beichiogi a goroesiad embryonau; cynhyrchu ŵyn cryf a hyfyw; sicrhau colostrwm o ansawdd a sicrhau’r gyfradd twf gorau posibl ar gyfer ŵyn. Bydd y gweithdy hefyd yn trafod sut i lunio dognau porthi i  fodloni gofynion y famog ar wahanol gyfnodau yn ystod beichiogrwydd / llaethiad; edrych ar opsiynau porthi cost effeithiol ac agweddau biolegol sylfaenol y rwmen er mwyn gwella cymeriant bwyd.
 
Noder, mae’n rhaid cwblhau’r ffurflen gais er mwyn mynychu.

 

Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer Meistr ar Faeth ar gau. 


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Meistr ar Slyri Cymru
Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermwyr a chontractwyr sy’n
Meistr ar Briddoedd Cymru
A hoffech chi wella eich rheolaeth pridd? Cynyddu eich
Meistr Gwndwn Llysieuol
Cwrs undydd yw Meistr Gwndwn Llysieuol a fydd yn sicrhau bod gan