Trelech, Caerfyrddin

Prosiect Safle Ffocws: Deall gweithrediad ymarferol Gwerthoedd Bridio Genomeg newydd ar gyfer nodweddion carcasau

Nodau'r prosiect:

  • Nod y prosiect yma yw cynyddu ymwybyddiaeth pobl o’r gwerthoedd bridio genomeg (GEBV) cyntaf sydd ar gael i’r diwydiant eidion.
  • Mae GEBV yn cyfuno canlyniadau dadansoddiad delweddu fideo carcasau gyda gwybodaeth genomeg o’r DNA i greu allwedd ‘SNP’ ar gyfer y brid. Gall cynhyrchwyr gymharu DNA eu hanifeiliaid byw gyda’r allwedd a chanfod eu rhinweddau bridio ar gyfer naw nodwedd carcas newydd.
  • Gallai’r dechnoleg helpu bridwyr pedigri i roi teirw ar werth sydd â nodweddion carcasau lefel uwch; gallai ffermwyr eidion sugno gynhyrchu lloi gyda gwell rhinweddau carcas; a gallai bridwyr eidion gael anifeiliaid a fyddai’n targedu gofynion y farchnad yn well.
  • Bydd y fuches Limousin pedigri’n cyflwyno DNA gan 50 o anifeiliaid ar gyfer nodweddion carcasau. Bydd samplau DNA yn cael eu cymharu gyda’r ‘allwedd SNP’ ar gyfer y brid Limousin a GEBVs a gynhyrchwyd ar gyfer bob anifail a samplwyd a’u cymharu gyda siart canraddol GEBV y brid.
  • Bydd yr amrywiadau Myostatin sy’n cael eu cario gan bob anifail yn cael eu penderfynu a’u halinio gyda rhwyddineb y lloia, hyd y beichiogiad a gwerthoedd genetig bras pwysau ar enedigaeth. Ystyrir bod mwtaniaid y myostatin genynau ‘cyhyrau dwbl’ yn gysylltiedig gyda phwysau genedigaeth trymach a’r potensial i gael mwy o anawsterau wrth loia.
  • Bydd yr wybodaeth yma’n cael ei defnyddio i ganfod y llinellau bridio gorau ar gyfer y nodweddion carcasau ac archwilio unrhyw berthynas bosibl rhwng nodweddion carcasau, myostatin ac anawsterau lloia.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cefngwilgy Fawr
Gareth, Edward a Kate Jones Cefngwilgy Fawr, Llanidloes Meysydd
Pantyderi
Wyn a Eurig Jones Pantyderi, Boncath, Sir Benfro Meysydd
Llysun
Llysun, Llanerfyl, Y Trallwng Prif Amcanion Datblygu