Wern, Foel, Y Trallwng

Prosiect(au) Safle Ffocws: Gwella effeithlonrwydd ynni ar unedau dofednod dwys / Defnyddio EXZOLT® i reoli gwiddon coch mewn unedau dofednod.

 

Gwella effeithlonrwydd ynni ar unedau dofednod dwys

Nodau’r prosiect:

Prif nod y prosiect yw mesur a deall defnydd trydan presennol a gofynion ynni’r fferm a rhoi mesurau ar waith i leihau faint o ynni a ddefnyddir yn y dyfodol, allyriadau tŷ gwydr a chostau ynni.
Bydd defnydd ynni’r uned 32,000 o ddofednod dodwy’n cael eu cofnodi trwy gynnal archwiliad ynni.
Bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu adroddiad cynhwysfawr yn nodi argymhellion sut i leihau faint o ynni a ddefnyddir a gwella effeithlonrwydd ynni ar y fferm.
Bydd defnydd ynni’n cael ei adolygu unwaith eto er mwyn dangos a yw’r argymhellion wedi lleihau’r ynni angenrheidiol ar gyfer yr uned ddofednod.


Defnyddio EXZOLT® i reoli gwiddon coch mewn unedau dofednod.

Nodau’r prosiect:

Nod y prosiect yw canfod dull o reoli gwiddon coch mewn unedau dofednod sy’n effeithiol ac yn ymarferol yn economaidd.
Bydd asesiad o’r sefyllfa gwiddon coch presennol yn cael ei gynnal. Wedi i’r asesiad o widdon coch gadarnhau bod angen triniaeth, bydd brechlyn yn cael ei roi.
Ar ôl rhoi’r brechlyn, bydd trapiau gwiddon coch yn cael eu defnyddio eto yn yr uned i fesur  lefel y gwiddon coch yn rheolaidd drwy gydol yr arbrawf.
Bydd dadansoddiad cost mantais hefyd yn cael ei gwblhau i ddangos y costau cysylltiedig ynghyd ag unrhyw fanteision o ddefnyddio’r brechlyn.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Dolygarn
James Powell Dolygarn, Llanbadarn Fynydd, Llandrindod Wells
Bryn
Huw a Meinir Jones Bryn, Ferwig, Aberteifi Meysydd allweddol yr
Marian Mawr
Aled Morris Marian Mawr, Dyserth, Rhyl Prif Amcanion Gwella