Prosiect Safle Arddangos - Newton Farm

Cymharu triniaethau masnachol ar gyfer rheoli dail tafol mewn padogau pori cylchdro gyda meillion a heb feillion

 

Nod y prosiect:-

Prif nod Richard yw rheoli dail tafol mewn rhai o’r caeau pori parhaol sy’n cael eu defnyddio fel rhan o’i system bori cylchdro i wneud y defnydd gorau o’r borfa. Er bod Richard wedi llwyddo i reoli dail tafol yn y gorffennol, mae’n teimlo bod lefelau dail tafol bellach yn effeithio ar ansawdd a chyfanswm y glaswellt a dyfir mewn ambell gae. Byddwn yn cymharu’r cynhyrchion confensiynol a argymhellir sydd ar gael i ffermwr ac yn trin caeau sy’n cynnwys meillion a chaeau heb feillion. Byddwn hefyd yn edrych ar rannu’r gwasgariad rhwng y Gwanwyn a’r Hydref o’i gymharu â gwasgaru yn y Gwanwyn yn unig. Rydym ni’n bwriadu trin dau floc - mae un ohonynt ger camlas a byddwn yn gweithio gyda Dŵr Cymru i sicrhau’r arferion amgylcheddol gorau wrth wasgaru.

 

Yr hyn y byddwn yn ei wneud:

1. Sicrhau ein bod yn cynnal profion pridd cyfredol ar gyfer y caeau sydd i gael eu trin gan gynnwys asesiad o strwythur y pridd.

2. Asesu lefelau dail tafol ym mhob man a nodwyd i sicrhau bod y driniaeth yn ymarferol yn economaidd. Gwirio a oes meillion yn bresennol.

3. Adnabod ar ba gam o ran twf y mae’r dail tafol, yn ogystal â’r math o ddail tafol sy’n bresennol.

4. Creu argymhelliad priodol ar gyfer chwistrellu chwynladdwr i reoli dail tafol, gan ystyried meillion, dull pori a’r cnwd dilynol.

5. Creu protocol arfer dda ar gyfer gwasgaru gan ystyried diogelwch yr offer chwistrellu, arferion gorau wrth chwistrellu a ffactorau amgylcheddol.

6. Cytuno’n glir ar unrhyw gyfyngiadau megis bwlch rhwng pori, cyfyngiadau o ran y cnwd dilynol ayb.

7. Asesu canran y rheolaeth dail tafol ar ôl trin

8. Edrych ar yr elw o fuddsoddiad ar gyfer rheoli dail tafol – monitro yn y Gwanwyn ac unwaith eto ar ddechrau’r Hydref

 

Diweddariad Prosiect Mai 2019

Adroddiad: Rheoli dail tafol yn arwain at wella glaswelltir ar Fferm Ffocws Cyswllt Ffermio

Adroddiad mis Medi: Prosiect rheoli dail tafol mewn caeau â meillion a chaeau heb feillion, 2019


Effeithlonrwydd y fuches sugno

 

Nodau’r prosiect a’r hyn fydd yn cael ei wneud:

Mae Richard wedi trawsnewid ei fuches sugno yn ddiweddar o fridiau bîff cyfandirol i fuches Stabiliser pedigri, felly nawr yw’r adeg ddelfrydol i ddatblygu dealltwriaeth a chymryd rheolaeth o berfformiad y fuches.

Bydd y prosiect yn anelu at osod targedau uchelgeisiol ar gyfer y fuches i sicrhau bod rheolaeth ac effeithlonrwydd y fuches yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn. Bydd y prosiect yn gosod targedau interim a fydd yn cael eu hadolygu i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd tuag at y targedau yn y pen draw. Mae’r manteision ariannol a geir o wella perfformiad y fuches, megis cynyddu nifer y lloi sy’n cael eu magu a llwyddo i sicrhau cyfnod lloia effeithlon yn cyfrannu’r helaeth at berfformiad ariannol o’r radd flaenaf.

 

Amcanion Strategol:

  • Gwella effeithlonrwydd y fuches sugno i wella gwytnwch.
  • Cynyddu pwysau cyfartalog gwartheg bîff wedi’u diddyfnu fesul buwch (yn unol ag amcanion strategol HCC)
  • Cyfrannu tuag at gynydd perfformiad cyfartalog y fuches genedlaethol drwy leihau’r bwlch lloia cyfartalog (yn unol ag amcanion strategol HCC).

Perfformiad lloia

  • Gwartheg yn lloia o 18 Mawrth
  • Mynegai lloia wedi lleihau o bron i 400 diwrnod yn 2013 (cyn cyflwyno’r Stabilisers) i hyd at 365 diwrnod yn 2017 a 2018 (roedd ychydig yn is na hynny hyd yn oed yn 2016)
  • Yn 2018 roedd 73% o’r gwartheg wedi dod â llo o fewn y tair wythnos gyntaf a 96% o fewn chwe wythnos
  • Ar hyn o bryd mae 73 o wartheg gyda 75 o loi
  • Yn 2017 roedd lloi heffrod yn diddyfnu ar bwysau o 253kg (40% o bwysau’r fuwch aeddfed)
  • Yn 2017 roedd teirw (cyflawn) yn diddyfnu ar bwysau o 327 kg (51% o bwysau’r fuwch aeddfed)

Mae pob un o’r rhain yn ganlyniadau ardderchog a’r hyn sydd ei angen yw cynnal y lefel yma o berfformiad ar y dyfodol - bydd y ffactorau canlynol yn cyfrannu at y llwyddiant hwn -

  • Sicrhau brid ffrwythlon, mamol sy’n cynnal cyflwr yn effeithiol heb drafferthion wrth loia hyd yn oed os ydyn nhw’n fwy ffit na’r hyn a argymhellir
  • Lloia’n rhwydd (pwysau isel ar enedigaeth) gan olygu nad oes problemau gyda’r enedigaeth, a sicrhau eu bod yn dychwelyd i gyfnod oestrws yn gynnar
  • Sicrhau bod digon o ddewis o heffrod bridio’n cael eu geni’n gynnar
  • Lloia heffrod yn ddyflwydd oed a dim  ond troi heffrod at y tarw am chwe wythnos i hunan-ddethol o ran ffrwythlondeb
  • Cymryd rhan mewn cynllun iechyd gwartheg
  • Meincnodi perfformiad y fuches bob blwyddyn
  • Sicrhau nad yw maint y fuwch yn mynd yn rhy fawr drwy ddethol teirw

Diweddariad y Prosiect:

Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 19, tudalen 16-17): Awgrymiadau da ar gyfer cael elw o wartheg bîff magu ar Safle Arddangos Cyswllt Ffermio

Adroddiad: Awgrymiadau da am greu elw o wartheg magu mewn digwyddiad Cyswllt Ffermio

Fideo: Eitem Ffermio Newton Farm 


Profi gwerth defnyddio hadau Meillion Gwyn wedi'u gorchuddio a'u gwrth-heintio

 

Nod y prosiect:

Gall cyflawni’r targed o 25-30% o feillion gwyn mewn porfa fod yn anodd.  Gall meillion gwyn gyflenwi dros 150kg o Nitrogen fesul hectar.  Fodd bynnag, er mwyn sicrhau budd o ran cynhyrchu anifeiliaid a’r borfa gan feillion, mae rhwng 25 a 30% o feillion gwyn yn y borfa sefydledig yn ddelfrydol.  Hyd yn oed os defnyddir arferion rheoli da, gall sefydlu meillion fod yn anodd ar fferm oherwydd mae’r hadau yn fychan iawn a byddant yn egino’n arafach na glaswellt.  Mae maint bychan yr hadau yn golygu fod ganddynt lai o egni wrth gefn i’w defnyddio yn ystod camau cynnar ei ddatblygiad, ac mae’n fwy tueddol o brofi straen a sefydlu gwael.

Gall gorchuddio hadau meillion wella sefydlu a chynhyrchiant yn sylweddol.  Mae’r deunydd a ddefnyddir i orchuddio hadau meillion yn cynnwys cynhwysion llesol i gynorthwyo i wella egino a sicrhau fod yr hadau yn cael rhagor o egni.  Mae’r cynhwysion yn cynnwys rhisobiwm, calch ac elfennau hybrin. 

Profwyd fod hadau meillion gwyn wedi’u gorchuddio yn sefydlu’n gyflymach ac yn cynhyrchu planhigion ifanc sydd â phetiolau hirach a dail mwy.   

 

Beth fydd yn digwydd:

Mae dau gae wrth ochr ei gilydd wedi’u nodi ar gyfer y prosiect.

Mae pridd y ddau gae wedi cael ei brofi ac mae pH y pridd yn 5.7 a 5.8.

 

Yn achos y prosiect hwn, byddwn yn mesur lefelau egino hadau sydd wedi’u gorchuddio a rhai sydd heb eu gorchuddio, a byddwn hefyd yn asesu gwahanol ddulliau o reoli’r hau.  

Felly, caiff y ddau gae eu rhannu’n ddau (gweler y llun uchod) a chaiff un hanner o’r ddau gae ei hau â meillion AberDai safonol heb eu gorchuddio a rhygwellt a chaiff yr hanner arall ei hau â meillion AberDai wedi’u gorchuddio a rhygwellt.

Caiff cae rhif un ei chwistrellu â glyffosad a’i aredig a chaiff cae rhif dau ei chwistrellu a chaiff yr hadau eu hau yn uniongyrchol â dril.  

I fesur y planhigion meillion ifanc, pan fyddant yn ddeufis oed yn y lle cyntaf, cânt eu cyfrif fesul medr sgwâr i werthuso cyfraddau egino.  

Wrth i’r borfa ddod yn hynach, mesurir % o feillion yn y borfa.

Ni wneir cymhariaeth rhwng cyfanswm y meillion a gynhyrchir nes byddant yn 12 mis oed, oherwydd ni fydd meillion yn cynhyrchu Nitrogen i’r glaswellt nes bydd yn 10-12 mis oed, ond ni ddaw hynny’n amlwg nes bydd oddeutu 18 mis wedi mynd heibio ers yr hau.  Byddwn yn defnyddio cewyll i fesur cyfanswm y meillion a gynhyrchir, a bydd hynny’n golygu y bydd Richard Roderick yn dal i allu pori’r caeau.  


Gwella systemau porthi grawn

Nod y prosiect oedd edrych ar y fantais o roi ychwanegyn grawn gyda barlys wedi ei dyfu gartref i borthi teirw bîff.

Mae’r ychwanegyn yn cadw grawn ac yn gwella’r porthiant, ac mae’n cynnwys –

• Ensymau ac olewau naws

• Wrea Graddfa Porthiant

 

Y buddion ‘arfaethedig’ o ddefnyddio ychwanegyn o’r fath yw bod amonia yn cael ei ryddhau yn y grawn wedi ei silweirio a thrwy hynny mae’n trin y grawn yn gyflym heb yr angen am ei sychu nag unrhyw brosesu pellach. Mae’r broses yn rhyddhau amonia yn ymosodol i’r grawn cyflawn aeddfed neu’r grawn wedi cracio sy’n atal burum a llwydni rhag tyfu ac yn ymosod ar organebau eraill sy’n difetha all fod yn bresennol ar y grawn wrth ei gynaeafu. Mae hyn hefyd yn codi pH y deunydd sydd wedi ei drin i lefel alcali rhwng 8.5 a 9.5 pH ac yn gweithredu fel byffer i borthiant asidig pan gaiff ei borthi. Ar yr un pryd, mae’r gweithgarwch yma yn gwneud ffibr y grawn yn haws ei dreulio ac yn codi lefel y protein o tua 30%.

Trwy borthi porthiant mwy alcalïaidd dylai hyn leihau’r risg o asidosis sy’n arwain at ddirywiad yn y gallu i dreulio ffibr a faint o borthiant a gymerir, sydd yn lleihau perfformiad yn anochel. Trwy borthi porthiant sy’n fwy cyfeillgar i’r rwmen gallwn borthi cyfraddau llawer uwch o rawn mewn cymhariaeth â ffurfiau traddodiadol o borthi cnydau grawn.

Wrth besgi gwartheg mae’n bwysig cadw anghenion microflora’r rwmen mewn cof yn ogystal ag anghenion yr anifail - bydd y prosiect hwn yn anelu at amlygu’r mater hwn hefyd.

Mae lefelau protein craidd grawn nodweddiadol mewn gwenith a barlys heb eu trin tua 11% CP. Trwy roi’r ychwanegyn gall hyn gael ei gynyddu o tua thraean. Y gobaith yw y bydd hyn yn lleihau dibyniaeth ar ffynonellau protein sy’n cael eu prynu i mewn, gan adael i’r fferm ddod yn fwy hunangynhaliol a lleihau GHG trwy leihau’r protein sy’n cael ei ddwyn i mewn.   

Gan nad oes angen i’r grawn gael ei sychu bydd hyn hefyd yn lleihau costau ac amser ac yn gwneud y cynnyrch yn un di-lwch. Mae storio’r cynnyrch hefyd yn syml iawn â’r grawn angen cael ei selio rhag aer a dŵr am 2 wythnos, ac yna bydd y clamp dan do yn cael ei agor a’r gorchudd plastig yn cael ei dynnu yn llwyr. Bydd yn hawdd ei borthi wedyn heb yr angen i dynnu gorchudd bob dydd.

 

Mae Richard Roderick yn awyddus i weithio ar y prosiect hwn am sawl rheswm-

  • Roedd ganddo darged o orffen bîff teirw Stabaliser cyn 15 mis i gael y premiwm uchaf gan Archfarchnad Morrisons.
  • Gan fod tyfu Barlys a Gwenith yn ddewisiadau yng nghytundeb Glastir y ffermwr, bydd defnyddio’r ychwanegyn hwn yn gadael iddo wella ansawdd y grawn, yn arbennig gan ei bod yn anodd cael y cynnwys o ran lleithder yn iawn yng Nghymru oherwydd yr hinsawdd.
  • Fel y soniwyd uchod, mae gallu’r ychwanegyn i gynyddu lefelau protein y grawn o 4.3 uned, cynnydd o 30% yn lleihau faint o brotein sy’n cael ei brynu i mewn i’r fferm yn ddramatig.
  • Bydd yn rhoi’r gallu i borthi lefelau uwch o rawn i wartheg ifanc pan fyddant yn gallu trosi porthiant orau.

Beth fydd yn cael ei wneud?

  • Wrth borthi bob bore, bydd yr offer cludo yn pwyso faint o rawn fydd yn cael ei roi, gan adael i ni gael ffigwr am gyfanswm y grawn a borthwyd trwy gydol y prosiect.
  • Bydd y gwartheg yn cael eu pwyso bob pythefnos a bydd gwartheg sy’n barod i’w lladd yn cael eu tynnu o’r grŵp.
  • Cesglir gwybodaeth o’r lladd-dy am ddosbarth y braster, pwysau a graddau hefyd ac fe’i dadansoddir ar ddiwedd y prosiect.
  • Bydd dŵr glân, gwellt a mwynau ar gael i’r gwartheg trwy’r amser.

Gweddillion Treuliad Anaerobig fel Gwrtaith Amaethyddol

Nodau’r prosiect:

  • Archwilio’r defnydd a wneir o weddillion treuliad anaerobig - yr hylif a gynhyrchir o offer treulio anaerobig - fel opsiwn amgen i wrteithiau cyfansawdd.
  • Cymharu’r gwahanol ddulliau o wasgaru ar gyfer gweddillion treuliad anaerobig.

Amcanion strategol:

  • Cynorthwyo i fynd i'r afael â gofynion masnachol ac amgylcheddol trwy gynnig atebion effeithiol a chynaliadwy sy'n cael llai o effaith ar yr amgylchedd trwy gylchdroi maethynnau.
  • Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ffrwythlondeb pridd a gwella perfformiad pridd mewn dulliau cynaliadwy, megis defnyddio deunyddiau sy’n garedig i’r amgylchedd i wella proffil maeth a chyflwr y pridd.

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Bydd lefelau maeth y gweddillion treuliad anaerobig yn cael eu dadansoddi a bydd gwrtaith cyfansawdd yn cael ei ddewis sy'n gweddu orau i'r dadansoddiad.
  • Bydd cae 13 erw’n cael ei rannu’n bum llain gyfartal o ran maint, un i weithredu fel llain rheoli heb ychwanegu mewnbynnau, un yn cael ei drin gyda gwrtaith cyfansawdd a'r lleill yn cael eu trin gyda'r gweddillion treuliad anaerobig wedi'i wasgaru gan ddefnyddio system crib ymlusgol (trailing shoe), plat tasgu a chwistrell disg.
  • Ar ôl ei wasgaru, bydd tyfiant glaswellt ar bob llain yn cael ei fesur yn wythnosol am chwe wythnos. Bydd hynny’n cynorthwyo i ganfod y dull gorau o wasgaru’r gweddillion treuliad anaerobig ac i nodi unrhyw wahaniaethau rhwng gwrtaith a gweddillion.
  • Ar ôl 35 diwrnod bydd sampl ffres o laswellt yn cael ei anfon i ganfod lefelau nitrad sydd ar gael yn y glaswellt.

Diweddariad prosiect:

Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 6, tudalen 12-13): Gweddillion treuliad anaerobig fel biowrtaith 


Sicrhau’r Gwerth Gorau am Ŵyn ar Gnwd Llyriad (Plantain)

Nodau’r prosiect:

  • Gwerthuso hirhoedledd llyriad fel cnwd ar gyfer pesgi ŵyn, trwy ail ymweld â chnwd sydd eisoes wedi’i sefydlu a gwerthuso ei effeithlonrwydd ar ôl tair blynedd.

Amcanion strategol:

  • Archwilio i botensial llyriad i wella effeithlonrwydd cynhyrchu ŵyn trwy: A. wella cyfraddau twf a dyddiau hyd pesgi; B. atgyfnerthu hyfywedd y busnes.
  • Archwilio sut all llyriad integreiddio i system rheoli glaswelltir y ffermwr defaid
  • Dangosyddion allweddol y prosiect fydd cynnydd pwysau byw'r ŵyn a farciwyd a’u canran lladd a’r dyddiau pori ŵyn a gyflawnir fesul erw.

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Sefydlwyd cnwd llyriad yn 2014 er mwyn archwilio ei botensial ar gyfer gwella effeithlonrwydd cynhyrchu ŵyn trwy wella cyfraddau twf a dyddiau hyd pesgi. Bellach yn ei drydydd tymor, mae wedi cael ei orffwys ac yn barod i'w bori.
  • Bydd y cae’n cael ei rannu’n hanner gyda ffens drydan a bydd system o bori a gorffwys y naill hanner a'r llall yn cael ei gyflwyno.
  • Bydd cynnydd pwysau byw cyfartalog yr ŵyn yn cael ei gofnodi, ynghyd â chanran lladd a’r graddau a gyflawnir. Bydd cyfanswm y dyddiau pori fesul hectar hefyd yn cael eu cofnodi.
  • Bydd yr wybodaeth yn cael ei gymharu â chasgliadau o 2014 er mwyn canfod hirhoedledd llyriad er mwyn pesgi ŵyn.

Diweddariad prosiect:

 

Llyfryn Fferm Newton