Prosiect Gweddillion Treuliwr Anaerobig ar fferm Newton Farm

Gan Menna Williams, Swyddog Technegol Cig Coch De Cymru

Mae’r prosiect gweddillion treuliwr anaerobig (digestate) ar fferm Newton Farm, Aberhonddu, bellach wedi cael ei gwblhau, ac fe rannwyd y canlyniadau yn ystod cyfarfod ar y fferm.

Mae’r ‘Digestate’ yn weddillion sy’n deillio o dreuliad anaerobig, ac roedd y gweddillion sy’n seiliedig ar fwyd yn dod o safle Treuliwr Anaerobig Bryn Pica, 4 milltir o Aberdâr, De Cymru. Roedd cynnwys maethol y gweddillion yn 111:20:41, ac fe wasgarwyd y cynnyrch ar leiniau 0.5ha gan ddefnyddio plât tasgu, system crib ymlusgol (trailing shoe) a chwistrell ar gyfradd o 9.11t/erw. Fe wnaethom baru gwrtaith cyfansawdd gyda’r gweddillion treuliad anaerobig a’i wasgaru ar gyfradd o 9t/erw (mae’n bwysig nodi bod y llain a dderbyniodd wrtaith wedi cael 1.11t/erw yn llai o faetholion).

Cafodd twf glaswellt ei gofnodi bob wythnos am 7 wythnos ac mae’r canlyniadau i’w gweld isod. 

Roedd y gwahaniaeth o ran costau rhwng y gwrtaith a’r gweddillion treuliad anaerobig yn sylweddol-

(Gan ddefnyddio pris cyfartalog eleni ar gyfer gwrtaith)

 

Costau gwrtaith (9.11t/erw)-

N= 111uned @28.5c/uned= £31.64

P= 20uned @ 27c/uned= £5.40

K= 41 uned @ 20.5c/uned= £8.40

Cyfanswm cost gwrtaith cyfansawdd = £45.40 o faetholion/erw (heb gynnwys costau gwasgaru)

Costau gweddillion treuliad anaerobig - £2/tunnell wedi’i wasgaru @ 9.11t/erw = £18 o faetholion/erw

 

Mae’r gweddillion treuliad anaerobig wedi profi i fod yn opsiwn ymarferol i ffermwyr yn y dalgylch, gan nid yn unig fod yn llawer mwy fforddiadwy o’i gymharu â gwrtaith cyfansawdd, ond mae hefyd yn cynorthwyo i adfer y broses naturiol o ailgylchu maetholion ac yn ailgylchu maetholion prin, megis ffosfforws.

Yn ail, gallwn arbed ynni, lleihau ein defnydd o danwyddau ffosil a lleihau ein ôl-troed carbon trwy ddefnyddio gweddillion treuliad anaerobig yn hytrach na gwrteithiau synthetig.

Mae’n bwysig iawn i gofio bod angen i ni ddefnyddio’r cynnyrch hwn mewn modd synhwyrol a chynaliadwy oherwydd ei fod yn cynnwys cymaint o faetholion, ac fe bwysleisiodd Charlie Morgan yn ystod y cyfarfod ‘pe byddem yn defnyddio’r cynnyrch hwn o ddydd i ddydd ar borfeydd, byddai ein lefelau ffosffad a photash yn mynd tu hwnt i’r mynegai gofynnol, felly mae’n hanfodol ein bod yn cynnal profion pridd ac yn trafod faint o weddillion treuliad anaerobig yr ydym yn ei ddefnyddio.’