Rhiannon Phillips
Glynarthen, Ceredigion
Bu i’r pandemig ganolbwyntio meddwl Rhiannon Phillips ar bwysigrwydd Cymru fel cenedl cynhyrchu bwyd hunangynhaliol ac fe atgyfnerthodd ei huchelgais i helpu i gyflawni’r uchelgais hwnnw drwy weithio ym myd amaethyddiaeth.
Mae Rhiannon yn astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Reaseheath, ac mae hi ar hyn o bryd ar ei blwyddyn lleoliad yn Wynnstay.
Fe’i magwyd ar fferm laeth ac yn ddiweddar dechreuodd ei phrosiect ei hun drwy gyflwyno naw Jersey pur i fuches Holstein y teulu.
Fel aelod gweithgar o CFfI Troedyraur, mae'n mwynhau cymryd rhan yng ngweithgareddau'r clwb.
Ar ôl cwblhau ei chwrs coleg mae Rhiannon yn bwriadu astudio amaethyddiaeth yn y brifysgol.
Cyn hynny, mae hi'n gwybod y bydd Rhaglen Iau yr Academi Amaeth yn ei helpu wrth iddi gynllunio tuag at ei llwybr gyrfa yn y dyfodol.
“Mae dyfodol yr amgylchedd o bwys i mi ac rwy’n awyddus i ddysgu sut y gallwn ni yn y diwydiant amaethyddol leihau ein hôl troed carbon a ffermio’n fwy effeithiol."