Nod y cwrs hwn yw rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i fod yn rhan annatod o dîm HACCP mewn gweithgynhyrchu bwyd a diwydiannau cysylltiedig eraill, megis dosbarthu a storio.
Mae'r cymhwyster yn ddelfrydol ar gyfer pobl sydd eisoes yn gweithio ym maes gweithgynhyrchu bwyd ac sy’n meddu ar wybodaeth am beryglon a rheolaethau bwyd. Yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mae’n bwysig cynnal arferion da wrth gynhyrchu bwyd diogel.
Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Deall pwysigrwydd gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd sy'n seiliedig ar HACCP
- Y prosesau rhagarweiniol ar gyfer gweithdrefnau arlwyo sy'n seiliedig ar HACCP
- Y peryglon a'r rheolaethau ar bob cam o'r gweithrediad arlwyo
- Sut i roi diogelwch bwyd yn seiliedig ar HACCP ar waith
- Sut i wirio gweithdrefnau sy'n seiliedig ar HACCP
Yn dibynnu ar y darparwr, bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal naill ai mewn dosbarth (BPI Consultancy) neu ar-lein (4 sesiwn 3 awr) o dan arweiniad tiwtor drwy Ganolfan Bwyd Cymru.
Bydd asesiad ar ddiwedd y cwrs. Byddwch yn cael tystysgrif ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.