Bydd y modiwl ôl-raddedig hwn, a gynhelir ar-lein, yn rhedeg am dri mis, gan ddechrau yn naill ai mis Mai neu fis Medi. Dylai’r sawl sy’n ymgymryd â’r cwrs feddu ar naill ai gradd dosbarth cyntaf, neu o leiaf dwy flynedd o brofiad perthnasol mewn amaethyddiaeth. Gallwch ymgymryd â’r cwrs fel DPP ar ei ben ei hun, neu gallwch ei ddefnyddio i adeiladu tuag at gymhwyster ôl-raddedig.

Cynnwys:

Golwg ar ddulliau arloesol ar gyfer systemau cyflenwi sy’n economaidd ac yn amgylcheddol gynaliadwy.
Mae angen i gynhyrchwyr, proseswyr a manwerthwyr bwyd gydweithio i gynnal cyflenwad o gynhyrchion ar gyfer dyfodol cynaliadwy a diogelwch bwyd. Mae'r modiwl hwn yn tynnu ar yr ymchwil ddiweddaraf er mwyn archwilio'r cysyniad o gynaliadwyedd a'r heriau i gyflawni hynny. Byddwn yn ystyried sut gallwn wella a llywodraethu cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Byddwn hefyd yn archwilio dulliau a thechnolegau arloesol sydd ar gael i gefnogi'r broses hon wrth gynnal diogelwch bwyd a chyflenwad o gynhyrchion diogel o ansawdd uchel. Bydd y modiwl hwn o ddiddordeb i unrhyw un sy’n ceisio deall rhagor am gynaliadwyedd a sut gall wella unrhyw system gyflenwi sy’n seiliedig ar y tir.

Canlyniadau Dysgu:

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd y sawl fydd yn ymgymryd â’r cwrs yn gallu gwneud y canlynol:

  1. Byddan nhw’n gallu egluro'r heriau ar hyn o bryd a heriau'r dyfodol i gyflenwadau bwyd;
  2. Byddan nhw’n gallu archwilio’r cysyniad o gynaliadwyedd ac economeg cyflenwad cynaliadwy;
  3. Byddan nhw’n gallu asesu'r berthynas rhwng nodau busnes a chynaliadwyedd;
  4. Byddan nhw’n gallu gwerthuso dulliau cyfredol o fesur a llywodraethu cynaliadwyedd;
  5. Byddan nhw’n gallu gwerthuso rôl rheoli gwybodaeth a pherthnasoedd mewn cyflenwad cynaliadwy;
  6. Byddan nhw’n gallu cymharu a gwerthuso gwahanol ffyrdd o gyflawni cynaliadwyedd.
     
Aberystwyth University – IBERS

Enw cyswllt:
Martine Spittle

 

Rhif Ffôn:
01970 621562

 

Cyfeiriad ebost:
rjs@aber.ac.uk

 

Cyfeiriad gwefan:
www.ibersdl.org.uk

 

Cyfeiriad post:
Campws Gogerddan, Aberystwyth, Ceredigion  SY23 3EE

 

Ardal:
Cymru gyfan
 

 


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Sgorio Symudedd Gwartheg
Cwrs hyfforddiant undydd gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn
Cael y Gorau o’ch Pobl
Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl
Dyfarniad Lefel 2 Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) a Defnyddio Plaladdwyr gan ddefnyddio Offer Chwistrellu Bŵm wedi’i osod ar Gerbyd (PA2)
Fel arfer yn gwrs hyfforddiant deuddydd gydag asesiad ar ddiwrnod