Bydd hyd y cwrs yn ddibynnol ar brofiad. Byddwch yn cwblhau asesiad ar ddiwedd y cwrs a rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.
Bydd y cwrs yn darparu’r wybodaeth a’r hyder angenrheidiol er mwyn gallu defnyddio’r peiriant yn ddiogel, gan eich diogelu chi ac eraill o’ch cwmpas. Mae’r cwrs hyfforddiant wedi cael ei ddatblygu i’ch helpu i ddeall sut i ddefnyddio tryc codi telesgopig ar gyfer tir garw (neu telehandler) yn ddiogel. Bydd y cyfarwyddyd yn dibynnu’n helaeth ar eich profiad blaenorol a bydd sesiynau’n cael eu haddasu i ymateb i’ch gofynion. Bydd y cwrs hyfforddiant yn cynnwys sesiynau theori ac ymarferol, gydag asesiadau theori ac ymarferol i ddilyn. Bydd sesiynau’n cynnwys: Diogelwch tryc codi a’r gyfraith, meysydd cyffredin er mwyn cynnal a chadw, gwiriadau cyn dechrau’r peiriant, dechrau, stopio a symudiadau sylfaenol, defnyddio’r peiriant gyda phaledi a llwythi, a llwythi mawr ac anodd. Os byddwch yn llwyddo i gwrdd â’r safonau gofynnol sy’n cael eu hasesu, byddwch yn derbyn tystysgrif cymhwysedd a cherdyn adnabod Lantra Skills ar gyfer y dystysgrif a ddewisir gennych.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: