ATV gan gynnwys llwythi ac offer sy'n cael ei lusgo (Eistedd arno)
Fel arfer, cwrs hyfforddiant undydd ac asesiad yn ddibynnol ar brofiad.
Mae cerbydau aml dirwedd (ATV) eistedd arno (a elwir hefyd yn feiciau cwad) yn beiriannau hynod o ddefnyddiol. Mae eu hyblygrwydd yn golygu y gallant weithio gydag amrywiaeth o...
Diogelwch ar y Fferm – Gweithio’n ddiogel â Thractorau
Nod y modiwl yw rhoi cyfle i ddysgwyr ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o baratoi, gyrru a gweithredu tractorau a pheiriannau cysylltiedig yn ddiogel ac yn effeithlon.
Gwella Adeiladau Da Byw
Yn y cwrs hwn byddwn yn edrych ar:
Broblemau presennol sy'n gysylltiedig ag adeiladau wrth reoli da byw, iechyd a pherfformiad, asesu adeiladau presennol yn wrthrychol, ystyried adeiladau presennol yn erbyn canllawiau dylunio a blaenoriaethu gwelliannau posibl ar sail yr...
Dechrau a Datblygu Busnes Garddwriaeth
Er bod ffermwyr eisoes yn canolbwyntio ar gyflenwi bwyd trwy gnydau a da byw, mae yna ddiffyg o ran tyfu garddwriaethol. Nod y modiwl hwn yw gwella eich dealltwriaeth o fentrau garddwriaethol, o'r cychwyn cyntaf i'r datblygiad, gan ddarparu man...
Adeiladu Carbon y Pridd
Gall priddoedd, o’u rheoli’n briodol, fod yn ddalfa garbon fawr (gan dynnu allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer). Er bod gan briddoedd Cymru stociau cyfoethog a sefydlog o garbon ar hyn o bryd, mae yna lawer o ffactorau a heriau...
Gwyddor y Pridd (IBERS)
Bydd y modiwl ôl-raddedig hwn, a gynhelir ar-lein, yn rhedeg am dri mis, gan ddechrau ym mis Mai. Dylai’r sawl sy’n ymgymryd â’r cwrs feddu ar naill ai gradd dosbarth cyntaf, neu o leiaf dwy flynedd o brofiad perthnasol mewn...
Iechyd a Diogelwch mewn Amaethyddiaeth – Paratoi ar gyfer Archwiliad
Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae anafiadau a salwch yn dinistrio bywydau a bydd busnesau’n dysgu sut i leihau’r peryglon i chi’ch hunan ac i eraill sy’n gweithio ar eich fferm. Gan...
Rheoli Gwahaddod - Technegau Trapio
Cwrs hyfforddiant undydd gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae sicrhau bod eich tir heb unrhyw dwmpathau gwahaddod yn hanfodol. Gall pridd o dwmpathau gwahaddod halogi eich porthiant, yn enwedig silwair, a dyma’r prif factor sy’n achosi listeria...
Ffermio Er Mwyn Peillwyr
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad ar bwysigrwydd peillwyr a sut y gall camau syml wrth ffermio da byw ar laswellt gynnig bwyd i wenyn a pheillwyr eraill.