Yn hanesyddol, mae dyfodiad technolegau newydd wedi newid ac esblygu arferion ffermio yn barhaus, fel eu bod wedi dod yn fwyfwy effeithlon, cynaliadwy a phroffidiol.

Erbyn heddiw, oherwydd pwysau sylweddol ar y sector amaethyddol i gynyddu cynhyrchiant bwyd, i fod yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd a pharhau i fod yn broffidiol, mae ystod eang o dechnolegau arloesol yn cael eu datblygu. 

Mae datblygiad technolegau o’r fath wedi cyflymu’n sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf, a chyfeirir atynt erbyn hyn fel dull o reoli systemau cynhyrchu sy’n seiliedig ar wybodaeth, neu amaethyddiaeth fanwl, a disgwylir i hyn helpu i fynd i’r afael â’r pwysau cynyddol ar amaethyddiaeth o safbwynt amgylcheddol, economaidd, y farchnad a’r cyhoedd.
 


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Arallgyfeirio Garddwriaethol er Bioamrywiaeth
Bydd y modiwl hwn yn archwilio strategaethau arallgyfeirio
Defnydd dŵr mewn garddwriaeth
Mae'r sector garddwriaethol yn dibynnu'n helaeth ar ddŵr o lawer
Priddoedd Garddwriaethol; Rheolaeth Gynaliadwy Trwy Ddefnyddio Cnydau Gorchudd A Thail Gwyrdd
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ddarparu cyflwyniad cynhwysfawr