Mae hwn yn gwrs pum diwrnod sy’n seiliedig ar gynaliadwyedd, ac mae’r awydd am Sgiliau Gwyrdd wedi agor llawer o lwybrau proffesiynol newydd ar draws pob sector. Mae cwblhau'r cwrs Tystysgrif Sylfaen IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn ffordd berffaith o ddangos bod gennych chi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen. Bydd y cwrs hwn yn eich arwain yn uniongyrchol at Aelodaeth Gyswllt o'r IEMA. Bydd y cwrs hwn yn darparu syflaen wybodaeth am gynaliadwyedd a’r amgylchedd er mwyn i chi allu adeiladu arni. Wrth ymdrin ag amrywiaeth eang o egwyddorion amgylcheddol, cynaliadwyedd a llywodraethu, bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o ehangder yr agenda cynaliadwyedd, a’r adnoddau a’r sgiliau rheoli y bydd eu hangen arnynt wrth weithio yn y maes hwn.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: