Pam fyddai William yn fentor effeithiol

  • Magwyd y ffermwr llaeth blaengar Will Hannah ar fferm 150 erw yn Sir Benfro yr oedd ei rieni wedi ei phrynu a’i datblygu fel y genhedlaeth gyntaf o ffermwyr. Will sy’n gyrru’r daliad yn ei flaen erbyn hyn, mae wedi ei ehangu i dros 600 erw, ac mae’n cadw 420 o fuchod llaeth Friesian Seland Newydd.  

  • Cafodd Will a’i dair chwaer eu trin yn gyfartal yng nghynllun olyniaeth y teulu, a welodd werth yr ased yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pawb. I gychwyn daeth yn bartner ym musnes y teulu ac yna, fel yr unig un o’r plant oedd am ffermio, prynodd ei chwiorydd allan o’r busnes. Dywed Will mai’r angen i ffermio’n broffidiol o flwyddyn i flwyddyn yw’r hyn sydd wedi ei yrru ymlaen. “Mae cymryd benthyciad banc mawr yn eich 20au cynnar yn eich helpu i ganolbwyntio!”     

  • Ers cymryd drosodd mae Will wedi datblygu’r busnes yn raddol.  Erbyn hyn mae’n cadw’r fuches gyda help un gweithiwr fferm amser llawn, dau ran-amser a’i dad sy’n dal yn barod i fod yn rhan o’r gwaith. Efallai yn fwy perthnasol yn y cyswllt hwn, mae’r ffermwr blaengar hwn wedi cyflwyno seilwaith sylweddol a thechnoleg fodern i sicrhau ei fod yn broffidiol ond hefyd yn effeithlon a chynaliadwy hefyd. 

  • Mae’n canolbwyntio ar ffermio proffidiol ar laswellt, ac mae’n annog pob ffermwr i seilio ei system ar yr adnoddau ar eu fferm a’i lleoliad.  Mae lloea mewn bloc yn hwyr yn gweithio’n dda gyda’r microhinsawdd lleol yn Sir Benfro ac mae cael llwyfan pori yn ei alluogi i gynhyrchu llaeth ar gost cymharol isel trwy system mewnbwn isel gyda phorthiant sy’n cael ei brynu i mewn yn cael ei gadw cyn lleied â phosibl.

  • Mae’r ffermwr ifanc hyderus a galluog hwn yn awyddus i rannu ei arbenigedd a’i wybodaeth gydag eraill. Disgwyliwch gael eich ysbrydoli gan ei ddull di-ffws a’i barodrwydd i gadw golwg ar dechnoleg fodern a’r arferion gorau.

Busnes fferm presennol

  • 420 o fuchod Friesian Seland Newydd ar system yn seiliedig ar laswellt a lloeau’n hwyr yn y gwanwyn. 

  • Yn anelu at gynhyrchu cymaint o laeth ag sy’n bosibl o laswellt - porfa yn neilltuol. Ar hyn o bryd mae’r fuches yn cynhyrchu cyfartaledd o ychydig dros 6,000 litr y flwyddyn, gyda 480kgms o solidau llaeth. 

  • Maent yn porthi tua 900kg o ddwysfwyd y flwyddyn ac maent wedi cynhyrchu 4,200 litr oddi ar borthiant y flwyddyn ddiwethaf.

  • Mae’r lloea yn digwydd mewn bloc 10 wythnos o Fawrth 20, gyda 90% o’r fuches yn nodweddiadol yn lloea allan.

  • Yr holl loeau cyfnewid yn cael eu magu mewn grwpiau o 45, gyda system fagu lloeau effeithlon o ran llafur y tu allan yn hwyr yn y gwanwyn, gan ddefnyddio system fwydo.

  • Mae’r seilwaith newydd y gwnaeth Will ei oruchwylio yn cynnwys: 

    • Adeiladu lagŵn slyri mawr, i’r fferm gydymffurfio â’r Parthau Perygl Nitradau
    • Adeiladu mwy o storfeydd silwair
    • Adeiladu 420 o giwbyclau buchod 
    • Parlwr godro cylchol 54 pwynt (un dyn yn godro) giât ddidoli, systemau golchi ac ati
  • Seilwaith pori newydd yn cynnwys llwybrau buchod a system ddŵr newydd 
  • Trwy fuddsoddi mewn technoleg LoRaWAN mae wedi torri i lawr ar yr oriau o waith trwy helpu i ganfod dŵr yn gollwng yn gyflymach  
  • Yn ddiweddar gosododd baneli solar ar do’r parlwr newydd ynghyd â banc rhew a ddylai leihau’r defnydd o drydan a chreu ynni i oeri’r llaeth mewn tywydd cynhesach

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • BSc 2:1 mewn Daearyddiaeth Ffisegol o Brifysgol Caerwysg (2007)

  • Aelod o’r grŵp trafod lleol Grazing Dragons sydd wedi bod yn werthfawr wrth ddatblygu system ffermio broffidiol a chynaliadwy. 

  • Ar ôl dychwelyd o’r brifysgol ymgeisiodd Will am gyrsiau Cyswllt Ffermio ar drimio traed a DIY dau faes nad yw wedi gorfod eu contractio allan!
     

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

“Rhoddodd fy rhieni flaenoriaeth i gynllunio olyniaeth, felly pan ddes i adref i ffermio, roedd cynllun yn ei le. Fy nod i oedd adeiladu ar bopeth yr oeddent wedi ei gyflawni a gyda phum plentyn ifanc ein hunain, mae olyniaeth yn fater yr wyf yn ymdrin ag o yn barod!”
“Ceisiwch weithio yn ôl eich cryfderau eich hun a’r adnoddau sydd gennych.  Gall lleoliad eich fferm, yr hinsawdd a’r dopograffeg eich helpu i wneud y mwyaf o’r potensial am fantais economaidd ac amgylcheddol.”