Mae What’s Cooking? yng Nglannau Dyfrdwy yn creu prydau parod gyda ffocws ar flas, cyfleustra, a chynaliadwyedd. Mae’r cwmni, sy’n olrhain ei wreiddiau yn ôl i 1987 pan gafodd ei sefydlu gan Leyla Edwards fel KK Fine Foods, wedi tyfu’n eithriadol dros y blynyddoedd. Bellach yn rhan o Grŵp Rhyngwladol What’s Cooking?, mae'r cwmni'n cynhyrchu detholiad eang o brydau parod wedi'u rhewi, gan gynnwys sawsiau cyri. Bu twf sylweddol yng Nglannau Dyfrdwy yn ddiweddar, gyda throsiant o dros £50 miliwn, sydd o fudd i’r cwmni a’r ardal leol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan sylweddol yn y llwyddiant hwn, gan ddarparu cymorth mewn meysydd fel hyfforddiant, cyllid, a chreu swyddi, sydd wedi helpu What’s Cooking? i ddatblygu gweithlu ymroddedig a medrus.