Busnesau bwyd a diod: gweithio gyda'r UE

Beth sydd angen i chi ei wneud fel busnes bwyd a diod i weithio gyda'r UE.

Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.gov.uk/guidance/food-and-drink-businesses-working-with-the-eu ( Saesneg yn unig)


Porth Pontio'r UE ('Masnach Drawsffiniol')

I ddysgu mwy am fasnachu â'r UE, gan gynnwys y rheolau tarddiad a masnachu â Gogledd Iwerddon, ewch i Borth Pontio'r UE ('Masnach Drawsffiniol')


Canllawiau Busnes Defra Rheolau Tarddiad yr UE (Saesneg yn unig)

Mae'r dogfennau canllaw hyn o natur esboniadol a darluniadol. Mae deddfwriaeth yn cael blaenoriaeth dros gynnwys y dogfennau hyn a dylid ymgynghori â hi bob amser.

(Saesneg yn unig)


Y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Mae dinasyddion o Ewrop yn cyfrif am nifer sylweddol o weithlu'r sector bwyd a diod yng Nghymru. Felly, rydym yn annog pob busnes I helpu eu gweithwyr o'r UE i wneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.gov.uk/guidance/the-food-and-drink-sector-and-preparing-for-eu-exit (Saesneg yn unig)

Mae Brexit yn debygol o gael effaith ar eich busnes, fel unig fasnachwr o fewn y DU neu yn fusnes mewnforio / allforio.  Rydym yn argymell eich bod yn cynllunio ar gyfer newid.  Mae cyngor ar baratoi busnes ar gyfer Brexit a dull o hunan-asesu ar gael yma.

Rydym yn argymell yn gryf bod busnesau bwyd a diod yn darllen yn fanwl am y newidiadau niferus fydd yn digwydd ar y diwrnod y byddwn yn ymadael â’r UE.  Gallai methu â pharatoi na gwneud y newidiadau gofynnol olygu bod eich busnes mewn perygl mawr. 

Gall busnesau bwyd a diod ddefnyddio dull hunan-asesu a chyngor penodol ar eu cyfer.  I ofyn am ddiagnostig gan brosiect Cywain, e-bostiwch: cywain@menterabusnes.co.uk  

Yna bydd ymgynghorydd yn trefnu ymweliad i gwblhau'r diagnostig. Bydd hyn yn helpu eich gwydnwch busnes ac yn sicrhau bod eich holl feysydd busnes yn cael eu hystyried cyn Brexit. Ar gael yma.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar at Gov.uk  ac yma, gyda chanllawiau ychwanegol gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.