Bydd ein gweithdy cychwyn busnes yn mynd â chi drwy'r camau allweddol a'r ystyriaethau ar gyfer dechrau busnes bwyd a diod.
Bydd y gweithdy hefyd yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael a all eich helpu i droi eich syniadau yn realiti.
Nod:
I gefnogi unrhyw wneuthurwr bwyd neu ddiod NEWYDD, unrhyw un sy'n ystyried sefydlu fel gwneuthurwr Bwyd a Diod a'r rhai sy'n troi o wasanaeth bwyd i weithgynhyrchu.
Rhaid i chi fod yn:
Fusnes NEWYDD = llai na 12 mis oed NEU fusnes gwasanaeth bwyd presennol yn edrych ar gynnyrch NEWYDD ar gyfer manwerthu/cyfanwerthu/D2C
Wedi'i leoli yng Nghymru ac yn bwriadu cynhyrchu yng Nghymru
Amcanion y Gweithdy
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cynrychiolwyr yn:
- Meddu ar wybodaeth am y gofynion allweddol ar gyfer cofrestru busnes Bwyd a Diod
- Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o'r gofynion diogelwch bwyd cychwynnol a gwybodaeth am yr hyfforddiant sydd ar gael (y gallu o olrhain ac ati
- Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o gyrchu cynhwysion (a sut i wirio bod cynhwysion wedi'u cofrestru yn y DU….
- Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o gynllunio busnes a bydd yn cael ei gyfeirio at gymorth pellach yng Nghymru
- Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o ymchwil cystadleuwyr a marchnata gyda rhai awgrymiadau ar gyfer ffyrdd rhad ac AM DDIM o wneud ymchwil
- Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o awgrymiadau gwerthu a marchnata ar gyfer busnesau newydd
- Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o gyllid, costau a dod o hyd i gyllid
- Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o raddio cynhyrchiant
- Meddu ar wybodaeth am y cymorth sydd ar gael trwy Brosiect HELIX, Cywain a Busnes Cymru
Ar ddiwedd y sesiwn, bydd y cynrhychiolwyr yn cael cyfle i drafod eu syniad/cynnyrch penodol gydag aelod o dîm ZERO2FIVE a thrafod y camau nesaf o ran cael cymorth.