Bydd y Gynhadledd Twf Bwyd a Diod Cymru 2025: Cydnabod Risg, Datblygu Gwytnwch yn canolbwyntio ar wydnwch a risg, gyda siaradwyr a phanelwyr yn trafod heriau gweithredol, ariannol, masnachol a’r gadwyn gyflenwi. Bydd risgiau hinsawdd yn thema allweddol drwy gydol y trafodaethau hyn.
Made'r Rhaglen Twf Bwyd a Diod Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi gweithgynhyrchwyr bwyd a diod i oresgyn yr heriau sy’n gysylltiedig â thyfu busnes. Mae’r tîm o Gynghorwyr Twf yn cynnwys gweithwyr proffesiynol uwch o fewn y diwydiant bwyd sydd â phrofiad helaeth mewn agweddau gweithredol a masnachol ar y sector bwyd, yn ogystal â chyfrifwyr cymwysedig, bancwyr, ac arbenigwyr cyllid corfforaethol sy’n cynnig mewnwelediad ariannol arbenigol a chefnogaeth i weithredu systemau gwybodaeth rheoli cadarn sy’n helpu busnesau i wneud penderfyniadau gwell.
Cynhadledd Twf 2025/ Scale Up Conference 2025 Tickets, Thu 6 Feb 2025 at 09:30 | Eventbrite