Cyflwynir gan Mabbett & Associates.
Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfres o weithdai ar-lein ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a symud tuag at Sero Net. Fe’u cyflwynir gan Mabbett & Associates.
Trosolwg o'r Gweithdy
Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy, faint o drydan rydych chi’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd, a sut i fonitro eich defnydd o drydan.
Ymhlith y pynciau dan sylw mae:
- Solar Ffotofoltäig
- Tyrbinau Gwynt
- Storio mewn Batri
- Trydan Dŵr
Canlyniadau Dysgu:
- Byddwch yn ymwybodol o’r angen i symud y sector Bwyd a Diod tuag at Sero Net, a sut mae systemau cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn gallu cefnogi hyn.
- Byddwch yn gyfarwydd ag amrywiaeth o systemau cynhyrchu ynni adnewyddadwy y gallwch chi eu rhoi ar waith i leihau faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio a faint o allyriadau carbon sy’n cael eu rhyddhau.
- Byddwch yn ymwybodol o’r ffyrdd ymarferol o roi’r gwahanol systemau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar waith. Byddwch hefyd yn gallu dweud a allai’r camau hyn fod yn ymarferol oddi mewn i’ch sefydliad.
- Byddwch yn gallu cyfleu i eraill sut y bydd systemau cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn cefnogi eich sefydliad gyda'i broses ddatgarboneiddio.
Bydd y gweithdai’n digwydd ar-lein ac maen nhw wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu ym maes bwyd a diod.
Maen nhw’n weithdai rhagweithiol ac yn caniatáu digon o drafodaeth er mwyn i’r rhai sy’n cymryd rhan allu rhannu eu profiad eu hunain trwy sesiynau grŵp. Bydd hefyd amser i ofyn cwestiynau i'r arbenigwyr.
Ar ôl y gweithdy, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu mynd i sesiwn un-i-un 30 munud o hyd – sy’n rhad ac am ddim – gyda thiwtor y cwrs.
Ymunwch â ni i ddarganfod sut gallwch chi roi’r newidiadau hyn ar waith i’ch busnes.