A ydych chi’n bwriadu datblygu a lansio cynhyrchion newydd neu gynhyrchion wedi'u hailfformiwleiddio sy'n bodloni gofynion defnyddwyr, sy'n hyfyw yn ariannol, sy'n bodloni safonau diogelwch bwyd, ac sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau gwybodaeth bwyd diweddaraf?
Os felly, bydd cyfres ZERO2FIVE o Weithdai Datblygu Cynnyrch Newydd yn eich tywys drwy'r dull Porth Llwyfan ar gyfer ddatblygu cynhyrchion newydd o’r cysyniad i’r lansiad.
Mae’r sesiynau lefel rhagarweiniol hyn wedi'u targedu at fusnesau cyfnod cynnar a busnesau newydd.
Adeiladu Briff - Dydd Iau 10 Hydref, 10yb – 1yp - Er mwyn datblygu a lansio cynhyrchion newydd llwyddiannus, mae angen i gwmnïau ddechrau gyda briff datblygu cynnyrch newydd cynhwysfawr.
https://www.eventbrite.co.uk/e/new-product-development-building-a-brief-tickets-990558245377
Proses y Porth – Dydd Mawrth 22 Hydref, 9.30yb – 1.30yp – Yn y gweithdy hwn, bydd cwmnïau’n dysgu sut i ddatblygu a gweithredu eu hymagwedd Porth at ddatblygu cynnyrch newydd.
https://www.eventbrite.co.uk/e/new-product-development-the-stage-gate-process-tickets-990560090897
Datblygu Cynnyrch Diogel - Dydd Iau 31 Hydref, 9.30yb – 1.30yp - Bydd y gweithdy hwn yn datgelu ystyriaethau diogelwch bwyd allweddol cyn lansio cynnyrch newydd.
Gofynion Labelu Cyfreithiol - Dydd Mawrth 12 Tachwedd, 9.30yb – 1.30yp - Ar ôl cwblhau rysáit cynnyrch, mae angen i gwmnïau feddwl am y wybodaeth a fydd yn cael ei hargraffu ar eu pecynnau a pha ddeddfwriaeth y mae'n rhaid cydymffurfio â hi.
Ymwybyddiaeth Synhwyraidd Sylfaenol - Dydd Iau 5 Rhagfyr, 9.30yb – 1.30yp - Mae'r gweithdy hwn yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n ystyried cynnal profion blas defnyddwyr neu sydd am gyflwyno paneli blasu i'w dulliau profi cynnyrch.
https://www.eventbrite.co.uk/e/new-product-development-basic-sensory-awareness-tickets-995073701227