Fe'ch gwahoddir i ddigwyddiad pwysig i drafod gweithredu Gwaith Teg Cymru.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar 12 Tachwedd rhwng 09:00-17:00 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Cafodd y Comisiwn Gwaith Teg ei benodi'r llynedd i edrych ar sut y gallem hyrwyddo ac annog gwaith teg yng Nghymru. Cyflwynodd ei adroddiad, Gwaith Teg Cymru, i Weinidogion yn gynharach eleni. Roedd yr adroddiad  yn cynnwys 48 o argymhellion ynghylch wyth maes gweithredu ac mae ar gael ar-lein ar y ddolen hon: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-05/gwaith-teg-cymru.pdf

Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau a busnesau, a chyda rhanddeiliaid eraill i weithredu argymhellion y Comisiwn.

Yn y gweithdy ar 12 Tachwedd byddwn ni'n edrych ar nodweddion a dangosyddion gwaith teg a sut y dylai'r rhain gael eu gweithredu, gorfodi hawliau cyfreithiol cyfredol yn effeithiol, a sut y gallem weithio i hyrwyddo gwaith teg ledled Cymru.

Byddwn yn holi cwestiynau fel:

  • Yn y dyfodol, bydd disgwyl i fusnesau a sefydliadau sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru allu dangos 'ymdrech weithredol' i fod yn Gyflogwr Gwaith Teg. Sut y dylai hyn edrych ar gyfer busnesau a sectorau o faint gwahanol?
  • Sut y gallai Fforymau Gwaith Teg arfaethedig y Comisiwn gael eu sefydlu mewn sectorau gwahanol a phwy ddylai gael eu cynrychioli arnynt?
  • Pa fath o ymgyrch 'adnabod eich hawliau' fyddai'n cael yr effaith fwyaf ac yn cyrraedd y nifer uchaf o bobl?

 

A fyddech cystal ag ymateb i FairWork@gov.wales i gadarnhau eich diddordeb mewn mynychu'r digwyddiad hwn. Os ydych chi'n bwriadu bod yn bresennol byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau eich dewis iaith ar gyfer cyfathrebu ynglŷn â'r digwyddiad hwn ac unrhyw ofynion deietegol arbennig sydd gennych.

Rydym angen eich cyfraniad ynglŷn â sut y dylem gyflawni argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg.

Yn anffodus ar hyn o bryd dim ond yng Nghaerdydd y gallwn gynnal y digwyddiad hwn ond byddwn yn ystyried cynnal trafodaethau pellach mewn mannau eraill yng Nghymru yn ystod y flwyddyn nesaf.

 

 

Share this page

Print this page