Mae Aldi yn cefnogi Menter Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, Ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste, drwy arddangos arwyddlun siâp calon eiconig yr ymgyrch ar bob pecyn o datws Cymreig a werthir yn eu siopau ledled Cymru.
Drwy gydol fis Medi, bydd dros filiwn o becynnau o datws, wedi'u tyfu a'u cyflenwi gan Puffin Produce Ltd o Sir Benfro, yn arddangos logo siâp calon #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste, gan amlygu i'r defnyddiwr Cymreig bod tatws Aldi i gyd yn cael eu tyfu, pigo a phecynnu yng Nghymru.
Mae Puffin Produce wedi mwynhau partneriaeth barhaus gydag Aldi, ar ôl dechrau gweithio gyda'r archfarchnad yn 2017, gan gyflenwi eu tatws o Sir Benfro i siopau Aldi yng Nghymru drwy gydol y flwyddyn. Dywedodd Julie Ashfield, Rheolwr Gyfarwyddwr Prynu yn Aldi UK: "Rydym yn falch o gefnogi ymgyrch #CaruCymruCaruBlas a Puffin Produce drwy arddangos y logo ar ein tatws Cymreig i amlygu eu tarddiad a'u hansawdd anhygoel i'n cwsmeriaid."
Nod ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste, sy'n fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Menter a Busnes, yw annog pobl i barhau i gefnogi cynhyrchwyr a manwerthwyr Cymreig drwy brynu cynnyrch bwyd a diod o Gymru. Lansiwyd yr ymgyrch ym mis Gorffennaf, gyda dau ddiwrnod ar wahân o ddathlu bwyd a diod Cymru, gan ddarparu cyfle i bobl ddiolch i'r rheiny sydd wedi bod yn gweithio i fwydo'r genedl yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae diwrnod Dathlu Bwyd a Diod Cymru arall wedi'i drefnu ar gyfer 4 Medi.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Rwy'n falch iawn o weld Aldi yn cefnogi ymgyrch y diwydiant yn y ffordd hon, sy'n dangos eu hymrwymiad i hyrwyddo ansawdd Cymru. Mae'n bwysig bod gan ddefnyddwyr y cyfle i brynu cynnyrch Cymreig, ac rydym yn falch bod Aldi wedi croesawu a chefnogi'r ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste."
Dywedodd y Gweinidog: "Gan fod cynhyrchwyr a busnesau bwyd ledled Cymru wedi cael eu heffeithio'n fawr gan y pandemig diweddar, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dangos ein cefnogaeth i fusnesau bwyd a diod Cymru.
"Dyma pam y bu i ni lansio'r ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste, i annog defnyddwyr Cymreig i barhau i gefnogi ein cynhyrchwyr a'n manwerthwyr, ac i'w hannog i brynu cynnyrch lleol uchel ei ansawdd o Gymru."
Dywedodd Huw Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Puffin Produce Ltd., "Mae'r ymrwymiad gan Aldi i ddangos arwyddlun yr ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste ar ein tatws o Sir Benfro yn newyddion gwych i ni. Nid yn unig y mae'n arwydd o ffyrdd yn ansawdd ein cynnyrch a dyfir gennym yng Nghymru, ond mae hefyd yn bwysig i ni fod gan ddefnyddwyr y cyfle i brynu cynnyrch o Gymru. Mae'n wych cael gweithio'n agos gydag Aldi ar y prosiect hwn a gallu amlygu i'r siopwyr fod y tatws y maent yn eu prynu o siopau Aldi yng Nghymru i gyd yn cael eu tyfu, pigo a phecynnu yng Nghymru."
Cynhelir y trydydd diwrnod dathlu Bwyd a Diod Cymru ar 4 Medi gyda Chynhyrchwyr a Manwerthwyr yn lawrlwytho pecynnau digidol #CaruCymruCaruBlas yn barod ar gyfer lansiad terfynol yr ymgyrch.