Mae nifer y cynhyrchion gafodd eu datblygu dros flwyddyn hynod anodd yn brawf clir o gadernid ac arloesedd y sector yng Nghymru.
Cynhelir y digwyddiad yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC Cymru) yng Nghasnewydd a bydd yn llwyfan i gynhyrchwyr o bob cwr o Gymru ddangos eu cynnyrch i brynwyr masnachol, o fanwerthwyr i wasanaethau bwyd ac allforwyr o bob rhan o'r DU. Mae cyfarfod rhithwir hefyd wedi’i drefnu ar gyfer prynwyr rhyngwladol yn dilyn y digwyddiad.
Ymhlith y cynhyrchion newydd gafodd eu datblygu dros y 12 mis diwethaf y mae blas iogwrt newydd, cwrw crefft tymhorol, amrywiaeth o gracers ceirch â blas, kraut mwg organig wedi'i eplesu a slô betys coch wedi'i becynnu mewn deunydd pacio cynaliadwy eildro.
Mae Bwyd a Diod Cymru, adran fwyd Llywodraeth Cymru, sy'n trefnu'r digwyddiad, ac Arloesi Bwyd Cymru wedi rhoi llawer iawn o help i fusnesau i ddatblygu'r cynhyrchion hyn gan gynnwys dod â chwmnïau at ei gilydd i rannu a datblygu syniadau newydd.
Manteisiwyd hefyd ar y cyfoeth o gefnogaeth sydd ar gael gan gynnwys help i fusnesau newydd gan Cywain a hyfforddiant a datblygu sgiliau gan Sgiliau Bwyd Cymru.
Un o'r cwmnïau sy'n arddangos eu hystod newydd o bwdinau pot fegan yw Daffodil Foods o’r Ffôr, Pwllheli.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Lynne Rowlands:
Mae gennym amrywiaeth o bwdinau tryffl siocled wedi'u gwneud o blanhigion, sy'n blasu'n hynod foethus ac sy’n toddi yn y geg fel sidan. Mae’n bwdin figan wedi’i wneud yng Nghymru i leihau taith y bwyd.
Mae pwdinau Potted Plant yn naturiol yn well i chi ac yn well i'r amgylchedd. Maen nhw wedi’u trin yn arbennig â gwres i estyn eu hoes a lleihau'r risg iddyn nhw gyfrannu at wastraff bwyd. Mae'r pwdinau'n cael eu pacio mewn potiau ramecin gwydr gyda chapiau metel, sydd ar hyn o bryd yn cael eu hailgylchu'n well yn y DU na'r rhan fwyaf o blastigau.
Mae BlasCymru yn gyfle gwych i ni arddangos y pwdinau siocled cynaliadwy hyn yn ogystal â gweddill ein cynnyrch.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Rwy'n hynod falch o'n sector bwyd a diod a’r ffaith iddo ddatblygu dros 200 o gynhyrchion newydd dros gyfnod pandemig Covid-19. Mae hyn yn dangos yn glir y gwydnwch a'r ysbryd arloesol sy'n nodweddu cynhyrchwyr ledled Cymru.
Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i bawb yn y diwydiant, ond mae ymateb ein busnesau wedi bod yn ardderchog.
Mae'n wych bod BlasCymru yn cael ei gynnal eleni ac mae'r newyddion heddiw yn dangos faint sydd gan Gymru i'w gynnig gartref a thramor. Rwy'n siŵr y bydd yr hyn y maent yn ei weld yn creu argraff ar brynwyr.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r sector bwyd a diod wrth i ni ymadfer o'r pandemig ac rwy’n disgwyl ymlaen at weld mwy o gynnyrch newydd yn cael ei wneud yng Nghymru a'i fwynhau ledled y byd.
Mae cwmnïau eraill yn arddangos cynhyrchion newydd gan gynnwys Puffin Produce â’u tatws 'Root Zero', tatws carbon niwtral cyntaf y DU, ac Old Coach House Distillery, distyllfa ddi-alcohol gyntaf y byd.
Dywedodd Huw Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Puffin Produce:
Mae’r system fwyd yn gyfrifol am hyd at 30 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd, sy'n achosi i'r blaned gynhesu'n gyflymach nag erioed o'r blaen. Rhaid i ni weithredu nawr, felly ein nod yw bod yn garbon niwtral a ffermio mewn ffordd sy'n diogelu ac yn adfywio ein tir, ein planhigion a'n bywyd gwyllt.
Mae tatws Root Zero wedi’u hardystio’n garbon niwtral ac yn cael eu tyfu gan ddefnyddio dulliau ffermio cynaliadwy sy’n cael gwared ar garbon deuocsid, yn creu pridd iach ac yn cynyddu bioamrywiaeth leol. Rŷn ni’n gobeithio y bydd y cynhyrchion hyn sy'n cael eu pacio'n gynaliadwy yn dechrau mynd i'r afael ag effaith enfawr y diwydiant bwyd ar newid yr hinsawdd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Old Coach House Distillery, Cameron Mackay:
Rŷn ni’n fusnes teuluol, yn cynhyrchu Stillers – ystod arobryn o ddiodydd botanig di-alcohol sy'n cael eu distyllu gan ddefnyddio'r perlysiau a'r sbeisys gorau o radd organig, wedi'u cymysgu â dŵr pistyll o Gymru.
Mae ein cynnyrch arloesol yn berffaith ar gyfer pawb sydd am ffordd iachach o fyw, anturiaethwyr neu bobl sy’n caru bwyd a diod. Rŷn ni’n disgwyl ymlaen at fynd i BlasCymru i gwrdd â phrynwyr a manwerthwyr a fydd, gobeithio, yn arwain at fusnes newydd i ni.
I gael rhagor o wybodaeth am BlasCymru eleni, ewch i wefan BlasCymru/TasteWales 2021.